7. Dadl Plaid Cymru: Trais a Chamdriniaeth Rywiol

Part of the debate – Senedd Cymru am 6:30 pm ar 15 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jane Hutt Jane Hutt Labour 6:30, 15 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Lywydd, cyn belled â bod trais ac ymosodiadau rhywiol yn parhau i fod yn bynciau tabŵ, mae'n llawer anos, fel y dywedwyd heddiw, i ddioddefwyr roi gwybod amdanynt. A phan fyddant yn gwneud hynny, rhaid iddynt fod yn hyderus y byddant yn cael eu credu, y bydd camau'n cael eu cymryd, y bydd eu hymosodwyr yn cael eu dwyn i gyfrif. A dyna pam y mae'r ddadl hon mor bwysig. Rhaid i'r rhai sy'n cyflawni'r troseddau hyn wybod na fyddant yn llwyddo i osgoi cosb, cânt eu herlyn a byddant yn cael eu heuogfarnu. Ond mae'r Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus wedi comisiynu adolygiad o erlyniadau ac euogfarnau am droseddau trais rhywiol, ac rwyf wedi ysgrifennu at y Cyfarwyddwr Erlyniadau Cyhoeddus yn croesawu'r adolygiad yn fawr, ac fe rannaf fy llythyr gyda'r Aelodau drwy ei osod yn y Llyfrgell.

Mae trais ac ymosodiadau rhywiol yn ymwneud â phŵer a rheolaeth, ac mae ein hymgyrch gyfathrebu ar reolaeth drwy orfodaeth wedi sbarduno cynnydd yn nifer y galwadau i'n llinell gymorth Byw Heb Ofn. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer yr adroddiadau o reolaeth drwy orfodaeth ar draws heddluoedd Cymru ers lansio'r ymgyrch, a bydd cam nesaf yr ymgyrch yn canolbwyntio ar reolaeth a thrais rhywiol. Diolch i Jenny Rathbone am siarad am ei phrofiad ac am dynnu sylw at y sesiwn gwestiynau a drefnwyd gan Bethan yr wythnos diwethaf gyda Sally a David Challen; gobeithio bod rhai ohonoch wedi gweld y cyhoeddusrwydd hwnnw. Fel y dywedodd Jenny, dioddefodd Sally reolaeth drwy orfodaeth, a soniodd am yr angen i fynd i'r afael â hyn mewn ysgolion. Felly, dyna pam rydym yn ariannu Hafan Cymru i addysgu am gydberthynas iach mewn ysgolion, ac wrth gwrs, fel y dywedwyd, bydd rhywioldeb a chydberthynas yn faes trawsbynciol ar gyfer y cwricwlwm newydd.

Nid yw cyfiawnder a phlismona wedi'u datganoli i Gymru. Fodd bynnag, gan fod troseddau a chyfiawnder yn fy mhortffolio, rwy'n gweithio gyda heddluoedd Cymru ar bob agwedd ar droseddu sy'n effeithio ar ddinasyddion Cymru, ac mae'r bwrdd partneriaeth ar blismona a gadeirir gennyf yn dod â chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid at ei gilydd o bob un o'r pedwar heddlu yng Nghymru bob chwarter, a byddaf yn crybwyll materion sy'n codi o'r ddadl hon yn ein cyfarfod nesaf.

Rwy'n falch fod y cynnig yn cynnwys cyfeiriad at wasanaethau cefnogi dioddefwyr ymosodiadau rhywiol, a Rhun, fe sonioch chi am hyn, fel y gwnaeth Delyth. Rwyf am nodi'r cynnydd a wnaed ar hyn. Mae'r GIG yn arwain adolygiad amlasiantaethol ar ddarpariaeth canolfannau atgyfeirio ymosodiadau rhywiol mewn cydweithrediad â chomisiynwyr yr heddlu a throseddu, yr heddluoedd a'r trydydd sector, gan helpu'r heddlu i ddatblygu a monitro manylebau gwasanaethau ar gyfer caffael gwasanaethau fforensig mewn modd integredig hyd nes y gellir sefydlu gwasanaeth archwiliadau meddygol fforensig. Wrth gwrs, fel rydych wedi dweud, mae cwnsela'n hanfodol i ddioddefwyr. Mae ar gael gan sefydliadau megis New Pathways ac Ynys Saff, ac yn uniongyrchol drwy wasanaethau iechyd meddwl y byrddau iechyd. Wrth gwrs, tynnodd Delyth Jewell sylw at y trawma y mae dioddefwyr yn ei ddioddef, fel y gwnaeth Joyce, a chredaf fod y materion y mae Joyce Watson wedi'u codi yn bwysig iawn, o ran mynediad at ffonau symudol. Roeddwn am ddweud fy mod yn ymwybodol fod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi cyhoeddi canllawiau mai dim ond llinellau ymchwilio rhesymol y dylid eu dilyn, er mwyn osgoi ymyrryd ym mywydau personol tystion. Ond rydym yn gwybod nad yw hynny wedi bod yn wir, ac mae angen inni weld hynny'n cael ei weithredu.

Hefyd, gan nodi pwynt Joyce am blant sy'n mynd ar goll yng Nghymru, yn sicr mae'r gwaith y mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei wneud ar y mater hwn yn hollbwysig, ac mae Prifysgol Caerdydd yn debygol o fod yn gweithio ar adroddiad ymchwil 'Cadw'n Ddiogel?' a gyhoeddwyd y llynedd. Mae adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn tynnu sylw at y ffaith bod rhai dioddefwyr troseddau'n teimlo bod y system cyfiawnder troseddol wedi'u siomi. Yn aml, nid oes ganddynt hyder yn y system. Maent yn ofni'r troseddwyr. Mae gwaith y comisiwn ar hyn yn bwysig iawn, ac yn amlwg, nid ydym am i'w profiadau ddod yn wybodaeth gyhoeddus sy'n golygu na roddir gwybod am droseddau.

Hefyd, mae'r adroddiad yn cyfeirio at ein gwaith, gwaith Llywodraeth Cymru, ar ddatblygu a gweithredu polisïau i fynd i'r afael â throseddau, gan weithio gyda chyrff datganoledig a chyrff yn y DU, felly, wrth gwrs, mae'r gwaith rydym yn ei wneud ar ein Deddf Trais yn Erbyn Menywod, Cam-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015 yn allweddol i hynny o ran mesur lefelau cynyddol o adrodd ar gam-drin a sicrhau ein bod yn cael ymyriadau cynnar, ymyrraeth yn seiliedig ar dystiolaeth, a chynyddu hyder dioddefwyr a mynediad at gyfiawnder.

Ond mae'r comisiwn yn iawn pan ddywed fod angen gwneud mwy i gefnogi pawb sy'n dioddef trosedd, ac mae'n dweud mai casgliad unfrydol y comisiwn, a nodir ym mharagraff cyntaf ei adroddiad pwysig, yw bod pobl Cymru yn cael cam gan eu system gyfiawnder, a thros y 10 mlynedd diwethaf—a chyfeiriodd Joyce at hyn—mae toriadau sylweddol wedi bod yn yr arian ar draws y system gyfiawnder, gan gynnwys mewn plismona a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sy'n cael effaith ddifrifol yma yng Nghymru. Felly, dylai cyfiawnder fod yn ganolog i'r Llywodraeth a dylai gyd-fynd â pholisïau eraill, yn enwedig y rhai a ddatganolwyd i Gymru.  

Felly, unwaith eto ac yn olaf, rwy'n croesawu'r ddadl hon a byddwn yn cefnogi gwelliannau 4 a 5 hefyd. Bydd yr is-bwyllgor Cabinet newydd ar gyfiawnder, a sefydlwyd ac a gadeirir gan y Prif Weinidog, is-bwyllgor rwy'n aelod ohono, gyda'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, yn darparu arweinyddiaeth gryfach yn Llywodraeth Cymru ar faterion cyfiawnder ac mewn trafodaethau gyda Llywodraeth y DU. Hyd yn hyn, nid yw cyfiawnder troseddol wedi'i ddatganoli. Rwyf wedi tynnu sylw at rywfaint o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru gyda'n pwerau a'n cyfrifoldebau cyfredol, ond yn unol â'ch cynnig, rwy'n mynegi fy nghydymdeimlad a fy nghefnogaeth i'r rhai sydd wedi goroesi trais ac ymosodiadau rhywiol, ac mae'r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i fynd i'r afael â'r troseddau erchyll hyn ac i gefnogi dioddefwyr. Diolch.