Part of the debate – Senedd Cymru am 5:45 pm ar 15 Ionawr 2020.
Diolch, Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn ffurfiol yn enw Caroline Jones. Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n codi materion pwysig sy'n mynd at graidd y math o wlad rydym ni a'r hyn rydym am fod.
Roeddwn yn arswydo wrth ddarllen yr adroddiadau am yr achos yng Nghyprus a oedd yn y penawdau yr wythnos diwethaf, ac yn arswydo eto heddiw wrth weld adroddiadau am ymgais arall eto i bob pwrpas i guddio achosion o baratoi i bwrpas rhyw a thrais rhywiol ar raddfa fawr yn erbyn plant yn y system ofal, y tro hwn ym Manceinion Fwyaf. Pryd y gwnaethom ddechrau beio dioddefwyr? Pryd y cawsom is-ddosbarth o ddioddefwyr lle mae rhai straeon yn fwy credadwy nag eraill? Ac yn yr achos yr wythnos diwethaf, pryd y gwnaeth dynion ifanc ddechrau meddwl ei bod yn gwbl dderbyniol neu mai rhan o natur tyfu i fyny oedd i grŵp o 10 neu fwy gael rhyw gydag un fenyw? Felly, er bod y ddadl hon yn ymwneud â'r system cyfiawnder troseddol, mae yma ystyriaethau ehangach hefyd ynghylch addysg, rhianta ac argaeledd pornograffi ac yn y blaen.
Trof yn awr at ein gwelliannau. Nid wyf yn derbyn y bydd datganoli pwerau i'r lle hwn ynddo'i hun yn arwain at y canlyniadau a ddymunir. Yn wir, bob wythnos, byddwn yn dadlau ac yn craffu ar y pwerau sydd gennym eisoes a'r hyn y mae'r Llywodraeth wedi'i wneud gyda hwy yma. Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn cael ei herio fel y mae; pan welir gwelliant sy'n ein cadw ar waelod canlyniadau'r Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr ar gyfer y DU fel llwyddiant, nid oes gennyf unrhyw hyder y byddai'r Cynulliad hwn na'r Llywodraeth hon yn well am weinyddu cyfiawnder troseddol na Llywodraeth y DU, a bod yn gwbl onest. Ond rwy'n edrych ymlaen at gael trafodaeth lawn yn y Siambr ar yr adroddiad llawn maes o law, yn enwedig mewn perthynas â sut y caiff cyfraddau euogfarnu eu gwella. Er fy mod wedi mynegi fy ngwerthfawrogiad fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno, ac rwy'n mynegi cefnogaeth fy ngrŵp i ddioddefwyr yn llawn—yn wryw, yn fenyw, yn blentyn ac yn oedolyn—teimlaf ein bod yn cael negeseuon cymysg, yn enwedig gan Blaid Cymru a Llafur Cymru. Sut y mae rhoi pleidlais i dreiswyr a rhai sy'n cam-drin yn rhywiol, fel rydych yn ei argymell, yn dangos cefnogaeth i ddioddefwyr? Sut rydych yn cysoni eich galwadau croch am leihad yn nifer y rhai sy'n mynd i'r carchar â hawl dioddefwyr i gyfiawnder? Rwy'n credu bod y toriadau i wasanaethau cyhoeddus dros y 10 mlynedd diwethaf wedi cael effaith anghymesur ar fynediad at gyfiawnder, ac yn sicr, ar Wasanaeth Erlyn y Goron. Yn fy marn bendant i, nid yw hwnnw'n addas at y diben, ac mae angen gwneud newidiadau ac adfer hyder.
Hoffwn droi yn awr at ddedfrydu. Mae'n rhaid i'r rhai a gafodd euogfarn yn sgil y troseddau hyn gael dedfrydau ystyrlon sy'n ceisio adsefydlu, a chosbi yn wir. Mewn achos sy'n anghyfforddus o agos at adref, ystyriai barnwr fod colli enw da a chwympo oddi wrth ras yn ddigon o gosb mewn achos pornograffi plant, lle caiff plant eu cam-drin yn rhywiol a'u treisio'n rhywiol i greu'r delweddau hyn ar-lein. Roedd y ddedfryd yn sarhad o'r mwyaf— [Torri ar draws.] Ie.
Nodyn o rybudd yn yr ymgyrch hon am gyfiawnder: caiff bywydau eu difetha gan honiadau ffug o drais a chamdriniaeth rywiol, ac mae'r rhai sy'n gwneud yr honiadau ffug hynny hefyd yn ei gwneud yn anos i ddioddefwyr go iawn. Felly, mae angen taro cydbwysedd. Nid wyf yn siŵr sut y mae hynny'n digwydd, ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno nad yw'r prosesau presennol yn gweithio a'u bod wedi bod yn mynd tuag yn ôl a heb fod yn gweithio ers amser hir. Nid yw hyn yn iawn ac mae angen gwneud rhywbeth cyn gynted ag y bo modd. Diolch.