Cam-drin Domestig

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:42 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 1:42, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n mynd i'r afael â cham-drin domestig drwy amrywiaeth o fentrau wedi eu llywio gan oroeswyr. Mae'r rhain yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a herio agweddau drwy ymgyrchoedd cyfathrebu; hyfforddi gweithwyr proffesiynol; darparu addysg ar gydberthnasoedd iach; pennu safonau ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr troseddau; a darparu cyllid refeniw a chyfalaf i ddarparwyr gwasanaethau.