Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 12,000 o wartheg wedi cael eu lladd oherwydd twbercwlosis mewn gwartheg. Mae hyn yn gynnydd anhygoel o 24 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r ffigurau uchaf erioed. Ym mhle mae polisi eich Llywodraeth yn methu?