Newid yn yr Hinsawdd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 2:19, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau a datblygu cydnerthedd. Yn y de, rydym ni'n buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus, adeiladau carbon isel, datgarboneiddio ein system ynni, gwella bioamrywiaeth, a datblygu'r gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd mewn meysydd fel atal llifogydd a rheoli adnoddau naturiol.