Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:30 pm ar 21 Ionawr 2020.
Llywydd, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Nid wyf wedi gweld yr adroddiad y cyfeiriodd hi ato, ac nid wyf wedi gweld y papur y bydd y bwrdd yn ei gyflwyno i'w gyfarfod cyhoeddus ar 30 Ionawr. Fodd bynnag, rwy'n deall y bydd y bwrdd yn cynnig cyfle i Aelodau Cynulliad lleol gael eu briffio ddydd Gwener yr wythnos hon, er mwyn deall yr hyn y maen nhw i'w adrodd i'r bwrdd hwnnw. Rwy'n sicr yn disgwyl y byddai'r bwrdd yn gweithredu yn y ffordd a awgrymwyd gan Leanne Wood, gan wrando ar farn cleifion, staff, a chynrychiolwyr etholedig, a gobeithiaf y bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn ddechrau da i'r broses honno.