Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 21 Ionawr 2020.
Rydych chi wedi sôn am y costau ychwanegol. Beth am yr arbedion a all ddigwydd drwy osgoi'r niwed seicolegol y gall plant ei ddioddef yn sgil cael eu taro, a beth am yr arbedion y gellir eu gwneud o ran atal rhieni rhag dechrau taro plentyn yn ysgafn ac o bosib symud ymlaen i'w taro'n galetach?