3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:15 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mark Drakeford Mark Drakeford Labour 3:15, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd â ni yn ein holau ac nid yn ein blaenau. Nid yw hynny'n anochel; mae o ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol gan Lywodraeth y DU ac mae gwell deddfwriaeth ar gael. Dyna pam rydym ni wedi gweithio mor galed, Llywydd, gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf i gynnig gwelliannau a fyddai wedi unioni rhai o'r pethau y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu gwneud mor wael.

A gaf i, wrth imi ymdrin â'r mater hwn, roi teyrnged i'r ymdrechion aruthrol a wnaeth yr Arglwyddi o Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi? Arglwyddi o wahanol bleidiau ac Arglwyddi meinciau croes hefyd, lawer ohonyn nhw'n gyn-Aelodau o'r Senedd hon, ond rhai eraill hefyd. Mae'n annheg enwi unrhyw un yn arbennig, Llywydd, ond fe hoffwn grybwyll yr Arglwydd John Morris. Y tro diwethaf imi gael sgwrs gyda'r Arglwydd Morris, tua diwedd y flwyddyn y llynedd, fe ddywedodd ef y stori am sut, yn ddyn ifanc yn ei 20au, y bu iddo gael ei ddewis i godi hwyl cyn cyflwyno'r prif siaradwr, Clem Attlee, yn isetholiad Caerfyrddin ym 1957. A dyma ni, fwy na 60 mlynedd yn ddiweddarach. Ar ôl bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru dan Harold Wilson a James Callaghan, ac yn Dwrnai Cyffredinol yng Nghabinet Tony Blair, roedd ef yno ddoe—fe fydd yn 90 mlwydd oed y flwyddyn nesaf—yn brwydro'n galed i ddiwygio'r Bil hwn fel y byddai'n amddiffyn buddiannau hanfodol Cymru. Os gall yr Arglwydd John Morris frwydro i amddiffyn buddiannau Cymru, yna siawns y dylem ninnau yma yn y Siambr hon allu gwneud yr un peth.

Gadewch imi hefyd am ennyd, Llywydd, rifo'r diffygion penodol yn y Bil hwn o safbwynt datganoli. Yn gyntaf oll, y cymal cwbl sarhaus sef rhif 21, lle mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau Harri'r Wythfed fel y'u gelwir, i ddiddymu neu ddiwygio unrhyw ran o unrhyw Ddeddf Seneddol, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae yna Aelodau o feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan hon sydd, yn anrhydeddus a thros flynyddoedd lawer, wedi plismona'r ffin rhwng pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a phwerau y dylid eu harfer yma ar lawr y Senedd. Nid wyf wedi cytuno bob amser â rhai o'u casgliadau nhw, ond rwyf bob amser wedi edmygu'r ymdrech a wnaethon nhw i gadw'r berthynas honno'n ddidwyll. Heddiw, fe fyddan nhw'n pleidleisio i gefnogi Bil lle gall Gweinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddeddfwriaeth eilaidd a heb unrhyw ganiatâd gan y Senedd hon o gwbl. Sut yn y byd y gallwn ni gydsynio i hynny?

Rydym ni'n dymuno pob llwyddiant i brotocol Gogledd Iwerddon, ond nid yw cefnogaeth i ddatganoli a heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn gofyn am ailysgrifennu'r setliad datganoli gan Weinidogion y DU yn unochrog. Dyna oedd dadl fawr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, y cyn Arglwydd Brif Ustus, ar lawr Tŷ'r Arglwyddi wrth geisio perswadio Gweinidogion y Deyrnas Unedig. Ond, er pob dadl a ddefnyddiwyd ganddo ef, nid ydym wedi elwa ar hynny o gwbl.

Nid yw'r Bil cytundeb ymadael yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd sefydliadau datganoledig yn cael swyddogaeth ystyrlon yn y trafodaethau ar y cyd â'r bartneriaeth, y mae'n paratoi'r ffordd ar eu cyfer nhw—trafodaethau a fyddai'n cael effaith fawr ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fe ddylem ni gael gwarant yn sgil y ddeddfwriaeth y bydd llais y Senedd hon yn cael ei glywed yn y trafodaethau hynny ond, er gwaethaf y gwelliannau a argymhellwyd gennym ni i'r Bil, fe wrthodwyd pob un o'r ymdrechion hynny. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, nid yw hi'n iawn i'n gorfodi ni i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig os nad ydym ni wedi bod yn rhan o gytuno arnynt.

Yn olaf, a does dim esgus dros hynny, Llywydd, mae Gweinidogion y Llywodraeth hyd yma wedi gwrthod ymgais i ychwanegu unrhyw gydnabyddiaeth o gonfensiwn Sewel at gymal sy'n haeru sofraniaeth ddiwrthdro'r Senedd—cymal a ddisgrifiwyd yn gofiadwy gan fy rhagflaenydd fel naill ai darn o graffiti cyfansoddiadol, oherwydd nid yw'n golygu dim, neu gymal sydd ag ymgais wirioneddol i dresmasu yn y setliad datganoli mewn ffordd ddifrifol iawn.

Llywydd, nid wyf yn fy nhwyllo fy hun y bydd gwrthod cydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon yn atal y Bil rhag cael ei ddeddfu, ond rwy'n gobeithio, hyd yn oed nawr, y bydd Llywodraeth y DU yn aros i fyfyrio ynghylch eu hagwedd nhw at ddatganoli ac yn ystyried y difrod y maen nhw'n ei achosi i wead y Deyrnas Unedig. Rwy'n nodi'r awgrym yn y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fod yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r Bil hwn yn neilltuol, yn benodol ac yn eithriadol. Dylent ddangos eu bod nhw'n credu mewn gwirionedd yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud drwy ddilyn ein cyngor ni ar sut y gellid codio Sewel i wneud yn siŵr bod y penderfyniad hwn yn cael ei gadarnhau mewn gwirionedd yn y dyfodol.

Mae'r Bil yn rhoi'r Deyrnas Unedig ar drywydd newydd, un sy'n llawn peryglon, gan gynnwys peryglon diangen y gellid bod wedi eu hosgoi. Ni chawsant eu hosgoi yn y ffordd y mae'r Bil wedi mynd trwy ddau Dŷ Seneddol; yn hytrach, yn y Bil hwn, maen nhw wedi cynyddu eto fyth ar draul datganoli ac ar draul Gymru. Ein gwaith ni yw amddiffyn ein buddiannau ni, gan y bydd Senedd yr Alban yn amddiffyn buddiannau'r Alban, ac fel y credaf y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ei wneud ar ran eu poblogaeth nhw hefyd. Mae cyfle inni wneud hyn y prynhawn yma, a dyna pam yr wyf i'n gofyn i'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn y cynnig a gwrthod ein cydsyniad ni i'r Bil niweidiol hwn.