3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:22 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 3:22, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Fil cytundeb ymadael yr UE yn canolbwyntio ar ddadansoddiad o'r cymalau yn y Bil yr ydym ni'n ystyried bod angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer nhw. Yn yr amser byr sydd ar gael, nid ydym wedi gallu ystyried rhai o'r pryderon ehangach y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi yn ei memorandwm, yn enwedig gan fod rhai o'r pryderon hyn yn ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno.

Yn fras, mae llawer o'r pryderon a godwyd gennym ni o ran dirprwyo pwerau i Weinidogion y DU a Llywodraeth Cymru yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn parhau o ran y Bil penodol hwn. Er hynny, oherwydd rhesymau ymarferol a gwleidyddol, rydym wedi penderfynu peidio â'u hailddatgan nhw yn ein hadroddiad ni. Yn hytrach, rydym wedi canolbwyntio ar y darpariaethau y mae angen cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer, gyda golwg ar sicrhau na fydd lleihad yn swyddogaeth y Cynulliad wrth graffu ar gyfraith yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, ac mae hynny wedi tynnu sylw at y pwynt hwn: sicrhau swyddogaeth y Cynulliad yn y craffu ar gyfraith yr UE. Felly, rydym wedi canolbwyntio ein hadroddiad ni ar y sefydliad hwn, i sicrhau na chaiff effaith andwyol.

Rydym ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad deddfwriaethol arnyn nhw, gydag un ychwanegiad—cymal 42—ac rydym ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio dadl y Cynulliad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma.

Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn ystyried mater swyddogaeth y Cynulliad wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio neu weithredu, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers 2018. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a chyd-Aelodau Seneddol y DU sawl gwaith ers hynny. Rydym o'r farn na ddylai swyddogaeth y Cynulliad leihau wrth graffu ar ddeddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, er ein bod ni'n cydnabod y gallai fod angen i'r swyddogaeth addasu yn ôl telerau'r cytundeb ymadael.

Er ein bod ni'n croesawu'r swyddogaeth a ddarperir i bwyllgorau San Steffan o dan gymal 29, credwn fod angen ei chryfhau drwy gynnwys swyddogaeth i bwyllgorau perthnasol y deddfwrfeydd datganoledig pan fydd deddfwriaeth yr UE yn cael ei hadolygu, yn enwedig pan fydd yn ymwneud â meysydd o gymhwysedd datganoledig. Ar 8 Ionawr 2020, ysgrifennwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd i gyflwyno'r achos o blaid dau welliant i gymal 29 yn y Bil i gynnwys swyddogaeth i'r deddfwrfeydd datganoledig hynny. Rydym wedi cyhoeddi'r llythyr hwn mewn atodiad i'n hadroddiad ni ar y cydsyniad deddfwriaethol.

Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Joan McAlpine ASA, sy'n Gynullydd Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol yn Senedd yr Alban, wedi ysgrifennu hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol i gefnogi ein gwelliannau arfaethedig ni. Mae ein hachos ni dros y gwelliannau hyn yn syml. Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran ystyried cydymffurfiaeth â chyfraith ddrafft yr UE gyda'r egwyddor o sybsidiaredd. Mae hyn yn deillio o erthygl 6 o brotocol 2 i'r cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn gymwys mwyach pan fydd y DU yn ymadael â'r UE yr wythnos nesaf.

Mae cymal 29 y Bil yn darparu ar gyfer mecanwaith Seneddol i adolygu deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu. Yn ein hadroddiad ni, rydym yn nodi nad yw hyn yn weithredol ynglŷn â mater cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd. Yn hytrach, caiff ei seilio ar gwestiwn ynghylch a yw darn o ddeddfwriaeth yr UE yn codi mater o ddiddordeb cenedlaethol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae profiad y Cynulliad o adolygu cyfraith ddrafft yr UE yn y gorffennol wedi dangos, ar adegau, fod materion penodol wedi codi sydd o ddiddordeb i Gymru a heb eu nodi ar lefel y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, yr effaith bosibl ar bysgodfeydd Cymru neu waharddiad ar bysgota rhwydi drifft a newidiadau i reoliadau organig i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Fe ellir ystyried y materion hyn, drwy estyniad, yn faterion o ddiddordeb cenedlaethol y DU. Roeddem ni'n dadlau y byddai'r Cynulliad, wrth gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth yr UE sy'n canolbwyntio ar y meysydd polisi a ddatganolwyd iddo, yn ychwanegu gwerth at y broses graffu gyffredinol ar gyfer y DU gyfan. Felly, i sicrhau nad yw swyddogaeth y Cynulliad yn lleihau wrth adolygu cyfraith yr UE yn ystod y cyfnod pontio, fe hoffem ni weld swyddogaeth gyfatebol i'r Cynulliad yn cael ei chydnabod yng nghyfraith y DU, yn union fel y cydnabyddir hynny ar hyn o bryd yn nhestun cyfreithiol y cytuniadau. Felly, rydym ni'n gweld lleihad yn ein swyddogaeth ni yma mewn gwirionedd.

Er i'r achos hwn gael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd unrhyw ddiwygiad yn cael ei wneud i gymal 29. Os bydd cymal 29 yn parhau i fod heb ei ddiwygio, fe fyddwn ni'n ceisio gweithio gyda phwyllgorau yn y ddau Dŷ Seneddol i sicrhau y gallwn chwarae rhan wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio, er gwaethaf y diffyg cydnabyddiaeth i'r swyddogaeth honno yn y Bil.

Llywydd, rhoddodd y pwyllgor yr adroddiad hwn ynghyd gyda barn ar rai o'r materion, ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion, oherwydd roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig inni roi gwybod i'r Aelodau am y pwyntiau yr oedd angen eu hystyried yn y ddadl hon. Fel y cyfryw, fe hoffwn i efallai gynnwys barn bersonol yn hytrach na barn y pwyllgor ar rai o'r pwyntiau hyn.

Llywydd, rwyf i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at hyn, mae'n rhaid i'r ddadl hon beidio â bod—peidio â bod—yn ddadl ynglŷn ag a yw Brexit am ddigwydd ai peidio. Mae hynny'n amherthnasol. Mae'n ymwneud â Bil sy'n pennu cyfraith sy'n nodi sut y gallwn ni gyflawni ein dyletswyddau yn y Siambr hon ac a yw'r gyfraith honno'n ddigon da.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y gwendidau yn y Bil hwn a'r ffordd y mae wedi newid cryn dipyn ers yr etholiad cyffredinol. Ein gwaith ni yw edrych ar fuddiannau'r bobl sy'n ein hethol ni a cheisio gwneud penderfyniadau a chymryd camau sy'n gwella ansawdd eu bywydau nhw. Mewn gwirionedd, mae'r diffygion yn y Mesur hwn—y gellid bod wedi eu cynnwys nhw, ond oherwydd dewis Llywodraeth y DU i beidio eu cynnwys—wedi arwain at leihad yn y craffu ar gamau gweithredu'r Llywodraeth. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n sicrhau bod y newidiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os na chân nhw eu cyflawni, yna ni ddylem gefnogi Bil nad yw'n ein helpu ni i gyflawni ein swyddogaeth. Ni ddylid ystyried awydd i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni ar frys yn rheswm dros ymwrthod â'n cyfrifoldebau ni a'n dyletswyddau ni yma yn y Senedd.

Fe fyddaf i'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw gan nad wyf i'n credu bod y Bil hwn yn rhoi digon o allu inni wneud ein gwaith: sef sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu digoni. Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol ac wedi derbyn rhai o'r gwelliannau—. Rydym wedi gweld gwelliannau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cyflwyno rhai i Lywodraeth y DU. Maen nhw'n anwybyddu popeth. Nid ydyn nhw'n dymuno hynny. Maen nhw wedi cael gwared ar lawer iawn o faterion a oedd ganddyn nhw ar waith. Nid yw hwn yn Fil sy'n cyflawni. Felly, fe fyddaf i'n gwrthwynebu hwn ar gyfer sicrhau ein bod ni'n cael ein gweld yn cefnogi'r bobl sy'n ein hethol ni.