Part of the debate – Senedd Cymru am 3:47 pm ar 21 Ionawr 2020.
Felly, pam ydych chi'n dweud—? Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. Pan ddywedwch chi nad yw'r eitemau hynny o ran amddiffyn cyflogaeth yn bodoli erbyn hyn, 'wrth gwrs nad ydynt', pam ydych chi'n dweud, 'wrth gwrs nad ydynt'? Pam y dylid eu tynnu nhw allan? Beth sy'n cyfiawnhau eu tynnu nhw allan pan oedden nhw'n gwbl dderbyniol o'r blaen? Nid gêm o bocer mo hon; gêm o ddeddfwriaeth dda ydyw. Felly, pam ydych chi'n dweud ei bod yn briodol hepgor amddiffyn hawliau cyflogaeth?