Part of the debate – Senedd Cymru am 3:50 pm ar 21 Ionawr 2020.
Mae'n eironig iawn, Llywydd, cael pregeth ar ddemocratiaeth gan Mark Reckless, ond gadewch i mi ddweud hyn: dadl y Ceidwadwyr a roddwyd iddyn nhw gan eu penaethiaid yn Llundain yw nad oes gennym ni hawl i wrthwynebu'r Bil hwn, bod yn rhaid i ni dderbyn pa bynnag Fil a gaiff ei ysgrifennu yn Stryd Downing a'i anfon drwy Dŷ'r Cyffredin, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i farn, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i fynegi ei barn ar ba gymalau bynnag a gaiff eu drafftio gan Boris Johnson, nad oes gennym ni ddim hawliau—[Torri ar draws.]—nad oes gennym ni ddim hawliau. Dydym ni ddim yn adennill rheolaeth. Nid yw'r hawliau hyn gennym ni mwyach.
Dywedwyd wrthym ni nad oedd gennym ni hawl, wrth gwrs, i wrthwynebu'r Biliau blaenorol. Dyma drydydd fersiwn y Bil penodol hwn, a dywedwyd wrthym ni, yn amlwg gan yr un bobl, nad oedd gennym ni hawl i wrthwynebu na nodi sylwadau ar y fersiwn gyntaf na'r ail fersiwn o'r ddeddfwriaeth hon. Dywedwyd yr un peth wrthym ni. Yn y ddemocratiaeth Brydeinig newydd hon, nid oes gennym ni'r hawl i wrthwynebu'r hyn y mae'r Weithrediaeth yn galw amdano gennym, y cyfan sydd gennym ni yw'r hawl i gytuno. Nid yw hynny'n fawr o ddemocratiaeth, ydy e'?
Dywedwyd wrthym ni y byddai hyn yn gwella swyddogaeth Senedd Prydain a Senedd Cymru a Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Ac yna dywedir wrthym ni y bydd y cymalau sy'n cyflwyno'r Weithrediaeth i reolaeth y Senedd yn cael eu dileu o'r Bil hwn. Felly, ni fydd unrhyw archwiliad o fandad negodi, ni fydd unrhyw adrodd naill ai i'r Senedd hon nac i Senedd y DU, ni fydd unrhyw graffu democrataidd ac ni fydd unrhyw atebolrwydd democrataidd. Ac yna dywedir wrthym bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—beth bynnag arall sy'n cael ei gymryd a'i ddileu o'r Bil hwn, mae'n rhaid i ni eistedd yno a derbyn hynny. Nid yw hynny'n swnio fel democratiaeth i mi.
Ac yna dywedir wrthym ni, oherwydd bod Bill Cash wedi cael y ffantasi hwn o sofraniaeth seneddol bod yn rhaid i ni dderbyn cymal arall sy'n gorfodi sofraniaeth Senedd Prydain ar fuddiannau pobl Cymru, y bobl, Mark, sydd wedi ein hethol ni—sydd wedi ein hethol. Fe ddangosaf i eiriadur i chi. Y bobl y byddwn ni'n atebol iddyn nhw y flwyddyn nesaf. Pan fyddaf i'n wynebu'r etholwyr ym Mlaenau Gwent, gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi: ni fyddaf i'n rhedeg—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn adnabod pobl Blaenau Gwent; dydyn nhw ddim yn eich adnabod chithau ychwaith. Fyddan nhw ddim yn gofyn i mi beth nad wyf i wedi ei wneud; byddan nhw'n gofyn i mi beth yr wyf i wedi ei wneud. Beth wnes i i amddiffyn ein democratiaeth? Bydd y Prif Weinidog yn cofio'r rali ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Nhredegar yr haf diwethaf pryd y buom yn siarad dros ddemocratiaeth yng Cymru, ac ni fyddwn yn cydsynio heddiw i lastwreiddio'r ddemocratiaeth honno.
Felly, bydd y Senedd hon yn sefyll dros graffu. Byddwn yn sefyll dros atebolrwydd a byddwn yn sefyll dros ein hawliau. Byddwn yn sefyll dros ein hawl ddemocrataidd i anghytuno, i wrthwynebu ac i sefyll dros yr hyn y cawsom ein hethol i'w wneud.
Gadewch i mi ddweud hyn: gwrandewais ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yn dweud wrthym na allwn ni wrthwynebu. Nid ydyn nhw wedi gwneud dim ond gwrthwynebu am 20 mlynedd, a byddan nhw'n gwrthwynebu yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac rwy'n eu cefnogi nhw yn eu hawl i wrthwynebu deddfwriaeth y Llywodraeth hon. Mae'n iawn ac yn briodol bod y Ceidwadwyr yn cael y cyfle i wrthwynebu, ac i fynegi a dadlau eu hachos. Mae hefyd yn iawn ac yn briodol bod y lle hwn yn cael yr un cyfle.
Gadewch i mi gloi drwy ddweud hyn: mae hwn yn ddarn difrifol iawn o ddeddfwriaeth, nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud o ran Brexit, ond yr hyn y mae'n ei wneud o ran ein cyfansoddiad ein hunain. Mae hyn yn chwalu Confensiwn Sewel. Roedd y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Bontypridd yn gwbl glir. Mae Llywodraeth y DU yn anghywir ynglŷn â hyn. Nid yw hwn yn gyfle i ddeddfu heb gydsyniad y lle hwn, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, oherwydd mae hyn yn eithriadol. Oherwydd bod hwn yn gyfnod eithriadol mae'n rhaid mynnu'r cydsyniad hwnnw ac mae'n rhaid cydnabod nad yw'r caniatâd hwnnw'n cael ei roi. Ni allaf feddwl am adeg pan fo Senedd y DU wedi bod mor ddiofal o ran pwerau Seneddau'r Deyrnas Unedig, a dweud wrthym wedyn nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw cydsynio. Mae hwn yn Fil a fydd nid yn unig yn cyflawni Brexit, ond a allai ddechrau cyflawni datgymaliad a datgysylltiad y Deyrnas Unedig.