3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 3:34, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch, Llywydd.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac egluro safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw yn gyfle clir i'r Senedd hon gyflawni'r canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru o'i blaid yn refferendwm yr UE yn 2016. Bron i bedair blynedd ar ôl y refferendwm hwnnw, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn credu ei bod hi'n bryd i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bryd inni gyflawni ewyllys glir pobl Cymru a'r DU, ac mae'n bryd inni ddwyn ein gwlad ni ymlaen ac archwilio ffyrdd o sicrhau llwyddiant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ar ôl Brexit.

Nawr, nid yw'r ansicrwydd parhaus sydd wedi cael ei achosi gan rai gwleidyddion wedi gwneud dim i ennyn hyder yn ein gwlad. Ac felly, yn dilyn y mandad clir a roddwyd i Lywodraeth y DU yn yr etholiad cyffredinol diweddar, mae'n amser bwrw ymlaen â'r gwaith erbyn hyn. O'r diwedd, fe fydd bwrw ymlaen â'r gwaith yn dod â'r ansicrwydd i ben, ac yn helpu i adfer hyder yn economi'r DU.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o sylwadau Airbus yn ddiweddar, sy'n adlewyrchu hyder newydd. Dyma a ddywedodd y prif weithredwr yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu,

Rydym ni'n gweld potensial mawr i wella ac ehangu ein gweithrediadau ni yn y DU eleni.

Ac mae Airbus yn gwbl gywir i ddweud bod cytundeb Brexit y Prif Weinidog wedi gwneud pethau'n fwy sicr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny, yn ogystal â barn y bobl a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli, pan fyddan nhw'n pleidleisio yn ddiweddarach heddiw.

Nawr, fe wn i fod y Prif Weinidog Cymru wedi honni y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri i ddatganoli ledled y DU fod yn agored i niwed, ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gwbl glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn aros yn gyfrifoldeb iddyn nhw ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig hefyd y dylai mwyafrif helaeth y pwerau sy'n cael eu dychwelyd o Frwsel egino yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast. Ac rwy'n falch o weld Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r safbwynt hwnnw, ac yn parchu'r setliad datganoli.

Yn wir, rwyf i o'r farn y byddem ni i gyd yn ddiofal pe byddem ni'n methu â gweld bod y cytundeb hwn yn cynnig rhai cyfleoedd cyfansoddiadol hefyd ar gyfer y DU gyfan. Er enghraifft, mae'r Bil yn adfer sofraniaeth y DU drwy wneud llysoedd Prydain, yn hytrach na Llys Cyfiawnder Ewrop, yn llysoedd uchaf y wlad, gan ddod â dyfarniadau barnwrol hanfodol bwysig yn nes at ein pobl ni. Er hynny, rwy'n derbyn y bydd tynnu allan o'r UE yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd ymhellach ar hyd y broses hon, fe fydd y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn hollbwysig ar gyfer diogelu sefydlogrwydd y cyfansoddiad i'r undeb. Ac mae'n bwysig bod Cymru â rhan lawn yn hynny.

Nawr, rwy'n digwydd credu hefyd, ar ôl Brexit, y bydd gan Lywodraeth Cymru gyfle i osod agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru drwy alw am ddatganoli adnoddau naturiol Cymru ei hun ymhellach, er enghraifft, fel y gallwn ni harneisio ei phŵer a'i farchnata'n fyd-eang. Fel y mae fy nghydweithwyr a minnau'n ei gweld hi, yn wahanol iawn i dorri ymrwymiadau amgylcheddol, fe allai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ein galluogi ni i weddnewid ein dulliau o ddiogelu'r amgylchedd, gan gyflwyno Bil newydd i osod nodau cyfreithiol sy'n rhwymo. Mae yna gyfleoedd inni.

Nawr, os yw pobl yn hoffi hynny neu beidio, fe fydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn rhyddhau cyfreithiau'r UE i Gymru, gan gynnwys ymadael â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin, lle mae'r rheolau hynny o'r UE wedi ein rhwymo ni hyd yn hyn. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhydd i ddatblygu polisïau cynaliadwy i ddiogelu bywoliaeth ffermwyr Cymru, ac, yn wir, bysgotwyr Cymru. Rwy'n credu mai dyma'r amser i feddwl am syniadau arloesol i drawsnewid y diwydiannau hynny yma yng Nghymru. Fe ddylem ni fod yn llawer mwy optimistaidd, ac nid mabwysiadu dull Llywodraeth Cymru weithiau o alaru ac anobeithio.

Llywydd, fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac, yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf, fe wnaethon nhw godi eu llais yn uchel ac yn hyglyw unwaith eto. Fe bleidleisiodd pobl Cymru i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac maen nhw'n awyddus i ddatgloi'r cyfleoedd sydd ar gael inni y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni gyfarwyddiadau eglur gan y bobl a'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, a'r neges bennaf o'n gwlad ni yw ei bod yn dymuno ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Heddiw, Llywydd, mae'n ddyletswydd arnom i gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a dechrau gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn genedl fyd-eang sy'n wirioneddol gystadleuol.