Part of the debate – Senedd Cymru am 4:05 pm ar 21 Ionawr 2020.
Ni ellir cael cyd-destun gwell i'n dadl heddiw a'r rhuthr mawr i adael yr UE ddiwedd y mis na'r pantomeim hurt ynghylch canu cloch Big Ben ar 31 Ionawr. Yn gyntaf, mae'n wastraff llwyr o amser ac egni, yn ail, mae'r Prif Weinidog, wedi ei ysgogi gan ei Aelodau adain dde Ewrosgeptig, fel petai'n meddwl ei fod yn syniad da erbyn hyn, ac, yn drydydd, mae ef eisiau i'r cyhoedd dalu amdano. Ni allai symboleiddio Brexit yn fwy agos na phe byddai'r holl beth wedi'i sgriptio gan Quentin Tarantino. O leiaf, serch hynny, byddai Tarantino yn rhoi trac sain da i ni ar gyfer y gyflafan sydd i ddilyn, yn hytrach na sŵn gwag un gloch.
Nawr, mae digon i'w ddweud am fethiant fy mhlaid fy hun yn ymgyrch aros 2016 a cholli etholiad cyffredinol Brexit 2019 wedi hynny. Mae bod ag agwedd saith allan o 10 yn y cyntaf yn ei gwneud hi'n amheus iawn y byddwn i'n rhoi unrhyw beth yn agos at 10 allan o 10 i arweinydd ein plaid yn y DU ar gyfer yr olaf. Ac felly mae angen i'r rhai ohonom ni yn y Siambr hon sy'n falch o fod yn Ewropeaidd ofyn nifer o gwestiynau i ni ein hunain ynglŷn â sut y daethom ni i'r pwynt hwn, ond nid yw hynny'n fater ar gyfer heddiw. Er fy mod i'n derbyn, gyda'r galon drymaf, fod canlyniad yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr yn golygu bod ein hymadawiad o'r UE bellach yn sicr, nid yw hynny yr un fath â chytuno â'r syniad chwerthinllyd hwn y gallwn ni yn awr gyflawni Brexit yn rhwydd.
Ni ellir rhoi rhyddid llwyr i'r Prif Weinidog wrth iddo ruthro'r wlad tuag at ddrws yr allanfa, ac mae gennym ni swyddogaeth bwysig yn y lle hwn i wneud yn siŵr nad yw'n gwanhau sylwedd ein heconomi na'n cymdeithas. Ac ni allai'r cyfiawnhad dros ein gwyliadwriaeth o'r newydd fod yn gliriach na phan edrychwn ni ar yr hyn y gofynnir i ni gytuno iddo heddiw: lleihau ymrwymiadau yn gysylltiedig â llais Cymru hyd yn oed o'r ddeddfwriaeth is na'r safon ofynnol a gynigiwyd ym mis Hydref. Fel y mae'r memorandwm gan Lywodraeth Cymru a'r adroddiadau pwyllgor cysylltiedig yn ei wneud yn glir, mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn datgan awdurdod San Steffan mewn ffordd nad yw erioed wedi digwydd o'r blaen ac mae'n mynd yn groes i'r holl ddeialog sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraethau dros y blynyddoedd diwethaf. Ond wedyn ni ddylai hynny ein synnu o gwbl.
Mae'n amlwg fod y Blaid Geidwadol wedi penderfynu nad yw'r hyn y maen nhw yn ei ddweud yn gyhoeddus yn bwysig erbyn hyn. Pan oedden nhw'n gofyn am gefnogaeth busnesau yn y refferendwm ac yn ystod trafodaethau Brexit, fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n cymryd y galwadau am aliniad rheoleiddiol o ddifrif, ond cafodd blynyddoedd o eiriau gwresog a sicrwydd eu golchi i ffwrdd mewn un cyfweliad gan y Canghellor y penwythnos hwn. Roedd y dyn a ddisgrifiodd y farchnad sengl, fis cyn y refferendwm, fel dyfais wych bellach yn gwrthod pryderon busnes gan ddweud, 'Rydym ni'n sôn am gwmnïau sy'n gwybod ers 2016 ein bod yn gadael yr UE.' Fyddai waeth iddo fod wedi dweud, 'Wel, wrth gwrs nad oeddem ni'n dweud y gwir. Beth oedden nhw'n ei ddisgwyl?'
Efallai ei fod wedi ei ysgwyd gan y dadansoddiad newydd sy'n dangos y rhagwelwyd eisoes y bydd cost Brexit yn cyrraedd £200 biliwn eleni, sef cyfanswm o fwy nag y mae'r DU wedi ei dalu i mewn i'r UE dros 47 mlynedd. Beth bynnag fo'r rheswm dros dro pedol brawychus y Canghellor, mae'n dilyn patrwm cyfarwydd y blaid. Yn y Senedd yr wythnos diwethaf, gwnaeth ASau Ceidwadol hefyd wrthod gwelliannau nad oedden nhw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar y penderfyniad i adael yr UE. Mewn gwirionedd, bydden nhw wedi anrhydeddu nifer o ymrwymiadau a wnaed ganddyn nhw yn flaenorol i'r wlad hon—ar hawliau dinasyddion yr UE, ar hawliau gweithwyr, ffoaduriaid sy'n blant, pwerau gweinidogol, Gogledd Iwerddon, y farchnad sengl a hawl i'r Senedd a'r gweinyddiaethau datganoledig fynegi eu barn ar y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Hyd yn oed ar raglen Erasmus, gwrthododd y Llywodraeth gynnig y cyfle anhygoel hwnnw i genedlaethau'r dyfodol. Gwn yn uniongyrchol beth y gall y math hwnnw o gyfle ei olygu i bobl ifanc na allan nhw fforddio gwyliau teuluol dramor a theithiau ysgol drud. Mae cyfyngu ar orwelion pobl ifanc yn y wlad hon y tu hwnt i unrhyw fath o amddiffyniad.
Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni yn y Cynulliad hwn ddibynnu ar eu hewyllys da a'u bwriadau anrhydeddus ynghylch swyddogaeth y sefydliadau datganoledig wrth lunio deddfau yn y dyfodol. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i. Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bolisi cyllido rhanbarthol i Swyddfa Cymru a Whitehall. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i.
Efallai eu bod nhw wedi ennill refferendwm 2016, efallai eu bod nhw wedi ennill etholiad cyffredinol 2019, ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn cael dad-wneud degawdau o gonfensiwn, cyfraith a chytundeb. Mae hyn yn gyfystyr â Chymru yn mynnu chwarae pob un o gemau'r chwe gwlad gartref eleni gan mai nhw yw'r pencampwyr presennol. Gall hynny ymddangos yn atyniadol iawn i'r enillydd, ond mewn gwirionedd mae'n hurt ac yn annheg. Mae Llywodraeth y DU wedi ennill hawl ddilys i fwrw ymlaen â Brexit, ond nid yn y ffordd ffwrdd â hi hon. Mae'r wlad yn haeddu gwell na Brexit 'Eton-mess'. Felly, fe ychwanegaf fy llais innau at lais Llywodraeth Cymru ac aelodau eraill yn y fan yma heddiw drwy ddweud 'na'.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ennill yr hawl i sathru dan draed ein heconomi, ein democratiaeth na'n cymdeithas. Er mwyn datblygu'r wlad hon gyda'n gilydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wella ei ffordd o weithredu, gwella ei chysylltiadau ag eraill a diwygio'r ddeddfwriaeth hon.