Part of the debate – Senedd Cymru am 4:35 pm ar 21 Ionawr 2020.
Dydw i ddim yn ceisio dweud nad yw'n rhan o'r trefniant cyfansoddiadol. Yr union bwynt a wnaf yw y bu'r bygythiad o ddefnyddio'r pwerau hynny yn ddamcaniaethol, hyd yn hyn, ond mae'r negodiadau ar berthynas yn y dyfodol a'r negodiadau masnach rydd gyda thrydydd gwledydd yn mynd i esgor ar nifer enfawr o faterion sydd yn effeithio'n uniongyrchol ac yn allweddol ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru. Pa gymwysterau ydym ni yn eu cydnabod neu ddim yn eu cydnabod ar gyfer ein hathrawon a'n gweithwyr iechyd? Pa derfynau sydd i'r cymorth ariannol y gallwn ni ei roi, gan gynnwys drwy Fanc Datblygu Cymru? A allwn ni barhau i wrthod caniatáu i gig eidion wedi'i drin â hormonau ddod i'r farchnad? Fel y dywedodd Lynne Neagle yn ei chyfraniad, a all ein pobl ifanc barhau i gymryd rhan yn y cynllun Erasmus, sydd wedi bod â rhan mor enfawr o ran agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru?
Rydym ni wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU bod ganddynt ddewis. Gallant geisio, lle bynnag y bo'n bosib, gytuno â ni a safbwyntiau negodi'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y rhain a llawer o faterion eraill sy'n effeithio ar ein cymwyseddau, ac os felly, byddwn yn cefnogi'r sefyllfa y cytunwyd arni ac yn rhoi'r cytundebau hynny ar waith. Gobeithio, wrth alw ar Gymru i gymryd rhan lawn yn y cyfnod sydd o'n blaenau, y bydd Paul Davies yn perswadio'i gyd-Aelodau yn y Senedd i alluogi hynny i ddigwydd. Mae wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn.
Fel arall, gallai'r DU anwybyddu ein safbwyntiau, trafod ar eu pen ein hunain ac yna wynebu brwydr gyfansoddiadol i'n gorfodi ni i weithredu canlyniad y gallem ni ei wrthwynebu ac na fyddwn ni wedi bod ag unrhyw ran yn penderfynu arno. Yn anffodus, er gwaethaf y drafodaeth ynglŷn â throsoledd yn y ddadl hon, nid yw'r Llywodraeth hyd yn hyn wedi rhoi unrhyw sicrwydd inni, er gwaethaf, os caf ddweud—ac ategaf eiriau'r Prif Weinidog yn y fan yma—y gwaith clodwiw gan Dŷ'r Arglwyddi i'w hannog i wneud hynny. At hynny, maent wedi gwrthod diystyru gweithredu ar eu pen eu hunain i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, os yw hynny'n angenrheidiol iddynt roi eu sicrwydd i Ogledd Iwerddon. Llywydd, os bu achos erioed o ddwyn gan y naill i dalu'r llall o ran datganoli, dyna, yn sicr, yw hynny.
Felly, mae ein cyngor i'r Senedd i bleidleisio yn erbyn y cynnig yn seiliedig yn llwyr ar amddiffyn datganoli. A gaf i gydnabod cefnogaeth Delyth Jewell i'r cynnig hwnnw yn ei chyfraniad a diolch iddi am ei gwaith yn craffu a herio yn ei swyddogaeth yn llefarydd Plaid Cymru ar Brexit? Sylwaf ei bod yn anffodus wedi methu â gwrthod y cyfle i daflu ensyniadau pleidiol braidd gynnau, ond rwyf yn diolch iddi am y cyfleoedd i gydweithio ar un neu ddau o'r materion sydd wedi codi yng nghyd-destun Brexit.
Nid cyd-ddigwyddiad, Llywydd, yw bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi dod i'r un farn, ac felly mae Llywodraeth y DU yn wynebu sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen lle y bydd hi o bosib yn bwrw ymlaen â'r Bil er iddi fethu â chael cydsyniad deddfwriaethol gan y tair deddfwrfa ddatganoledig. Yn wyneb y sefyllfa honno, byddwn yn apelio ar Lywodraeth y DU i wneud dau beth: yn gyntaf, i'w gwneud hi'n glir nad yw hi'n diystyru confensiwn Sewel. Caf fy nghysuro gan lythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe a ddyfynnodd y Prif Weinidog, a gobeithiaf nawr y caiff y sicrwydd hwnnw ei ailadrodd yn y Senedd. Ac yn ail, i ystyried o ddifrif ei hymateb i'n gofynion dilys am ran yn nhrafodaethau'r dyfodol. Maent wedi addo rhoi ateb inni yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a gynhelir yn fuan iawn, yng Nghaerdydd—gadewch inni weld beth yw'r ateb hwnnw.