Part of the debate – Senedd Cymru am 4:40 pm ar 21 Ionawr 2020.
Diolch, Llywydd. Yn sgîl fy natganiad ysgrifenedig ddoe, roeddwn eisiau achub ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiaeth o gamau sydd ar y gweill i sicrhau a chynnal gwelliannau mewn gwasanaethau mamolaeth a'r trefniadau ansawdd a llywodraethu ehangach ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ddoe, cyhoeddais ail ddiweddariad gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Rwy'n siŵr ein bod ni, ym mhob rhan o'r siambr, yn llawenhau o weld yn yr asesiad cyffredinol a ddarparwyd gan y panel annibynnol fod cynnydd da wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed gan y colegau brenhinol yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth y gofynnais amdano ac yr adroddais yn ei gylch y llynedd.
Yr hyn sy'n bwysig, ac yng ngeiriau aelodau annibynnol y panel, maent yn lled-gadarnhaol nawr y llwyddir i sicrhau gwelliannau cynaliadwy yn y tymor hwy. Mae'r panel wedi asesu tystiolaeth sydd wedi rhoi sicrwydd rhesymol iddynt fod 25 o argymhellion pellach wedi'u cyflawni ers yr adroddiad diwethaf. Mae hyn yn cynnwys: gwella ansawdd hyfforddiant ar gyfer staff meddygol a bydwreigiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n elwa arno, yn seiliedig ar gynlluniau cadarn i barhau i ddarparu gwasanaethau; bod â fframwaith llywodraethu clinigol cynhwysfawr ar waith sy'n arwain at welliannau mewn arferion clinigol; gwelliannau o ran adrodd, ymchwilio a dysgu o ddigwyddiadau difrifol; ac, yn bwysig iawn, cadarnhad bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth yn y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn unol â'r lefelau a argymhellir gan Birthrate Plus.
Bydd y panel yn ailymweld â'r rhain a meysydd eraill o bryd i'w gilydd dros y chwech i 12 mis nesaf i sicrhau eu bod yn effeithio ar arferion a bod gwelliannau felly'n parhau, gan hefyd asesu cynnydd yn unol â'r argymhellion sy'n weddill.
Er mai testun calondid imi yw gweld y gwelliannau hyn o ran diogelwch ac ansawdd gofal clinigol, rwy'n arbennig o falch o'r adborth cadarnhaol am y profiad o ofal a geir gan fenywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd. Yn ogystal â phrosesau'r byrddau iechyd ar gyfer cofnodi profiadau pobl wrth iddynt eu cael, caiff yr adborth hwn hefyd ei ategu gan ganfyddiadau ymweliadau'r cynghorau iechyd cymuned dros y misoedd diwethaf. At hynny, canfu adroddiad arolygu diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod gofal yn cael ei ddarparu mewn modd diogel ac effeithiol yng nghanolfan eni Tirion, sy'n uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.
Fodd bynnag, fel y mae'r panel wedi'i wneud yn glir, mae llawer mwy i'w wneud eto i adeiladu ar y cynnydd hwn. Cadarnheais yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe mai un o elfennau pwysig swyddogaeth y panel yw cynnal rhaglen o adolygiadau clinigol sy'n edrych ar ansawdd y gofal a ddarparwyd yn flaenorol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau y nodir pob agwedd bosib ar ddysgu ac y gweithredir arnynt, ond yn yr un modd, i geisio ateb unrhyw gwestiynau gan fenywod a theuluoedd am eu gofal sydd heb eu hateb eto.
Rwy'n ddiolchgar i'r panel am y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud i ddatblygu proses gadarn a thrylwyr, a gefnogir gan dîm mawr o adolygwyr clinigol profiadol, annibynnol sydd bellach wedi'u recriwtio. Maen nhw ac rwyf i yn benderfynol y bydd menywod a theuluoedd wrth wraidd y gwaith hwn ac y byddant yn cael cymorth i gymryd rhan os dymunant. Mae'r cyngor iechyd cymuned hefyd yn darparu cymorth eirioli ychwanegol i helpu gyda hyn.
Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gyfarfod â menywod a theuluoedd yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r panel. Mae gwrando'n uniongyrchol ar eu profiad bob amser yn anodd, ond mae'n hanfodol deall sut yr ydym ni'n sicrhau gwelliannau cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar fenywod a theuluoedd.
Cyn y Nadolig, cyfarfûm hefyd â staff yn ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dywedwyd wrthyf eu bod bellach yn teimlo bod mwy o gydlyniant a hygrededd yn bodoli o ran arwain a darparu eu gwasanaeth. Cefais ymdeimlad gwirioneddol o ymrwymiad, perchenogaeth a balchder unwaith yn rhagor yn y gwelliannau yr oeddent yn ceisio eu cynnal ac adeiladu arnynt. Mae hyn, heb os, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i staff, ac rwyf eisiau diolch iddynt am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr o amser, ac mae hynny wedi ei gydnabod yn glir gan y panel annibynnol.
Mae llawer o'r hyn a ddysgwyd o wasanaethau mamolaeth bellach yn helpu i lywio gwelliannau sefydliadol ehangach. Ers fy natganiad diwethaf ym mis Hydref, bydd Aelodau'n ymwybodol bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi eu cydadolygiad o drefniadau llywodraethu ansawdd. Amlygodd hyn nifer o wendidau sylfaenol yn y trefniadau hynny, ac mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion eang eu cwmpas i fynd i'r afael â nhw. Fodd bynnag, cefais fy nghalonogi hefyd gan y ffaith eu bod yn cadarnhau bod arweinyddiaeth newydd y sefydliad wedi llwyr gydnabod yr heriau, yr angen am newid a bod llawer o'r gwaith hwnnw eisoes yn mynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod eu prosesau llywodraethu yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw, gyda llinellau uwchgyfeirio a llinellau atebolrwydd clir pan fydd pryderon yn codi.
Mae nifer o ffrydiau gwaith ar y gweill i ymgysylltu â staff i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ynghylch y diwylliant o fewn y sefydliad, ynghyd â'r camau gweithredu hynny sydd eu hangen i ailennyn ffydd ac ymddiriedaeth cleifion, y cyhoedd a rhanddeiliaid. Disgwyliaf yn arbennig weld gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn y modd y mae'r sefydliad yn ymateb i bryderon a chwynion cleifion. Mae hyn yn hanfodol er mwyn ysgogi dysgu a gwella yn ogystal ag er mwyn i'r sefydliad gael ei gydnabod fel sefydliad sy'n agored ac yn dryloyw ym mhob peth a wna.
Mae'r gwahanol adolygiadau sydd wedi'u cynnal erbyn hyn ac sydd wedi adrodd yn ôl dros y misoedd diwethaf wedi rhoi darlun cynhwysfawr a disgrifiad o'r newidiadau sydd eu hangen. Mae hynny'n cynnwys ffyrdd o weithio a'r gwerthoedd a'r arferion sylfaenol y disgwylir iddynt sicrhau ansawdd a safonau gofal y mae gan bawb yr hawl i'w disgwyl. Rwy'n ffyddiog bod y bwrdd yn llwyr gydnabod difrifoldeb y materion a maint yr her sy'n eu hwynebu o hyd o ran sicrhau newid a gwelliant cynaliadwy, ac maent yn sylweddol.
Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y GIG, mae'r lefelau uwchgyfeirio presennol yn parhau ar draws holl sefydliadau'r GIG. Felly, yng Nghwm Taf, mae gwasanaethau mamolaeth yn parhau mewn mesurau arbennig ac mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu.
Erbyn hyn mae cynlluniau gwella clir yn datblygu i ymateb i'r ystod o newidiadau sydd eu hangen. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y cânt eu cefnogi a'u herio i gyflawni'r gwelliannau hynny. Mae'n bosib ac yn angenrheidiol cyflawni llawer yn gyflym, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni ac i ymwreiddio er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.