Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 21 Ionawr 2020.
Rwy'n ddiolchgar iawn, Gweinidog, am y sesiynau briffio sydd wedi'u darparu ar yr adroddiad hwn, er fy mod yn credu bod yn rhaid i ni gofio—ac, unwaith eto, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf a chywiraf i bawb yr effeithir arnynt—y loes ynghylch y diffygion y mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf wedi ei beri i lawer iawn, iawn o rieni ac ar adeg a ddylai fod yn un o'r adegau mwyaf llawen yn eu bywydau. Mae'n rhaid i mi gyfaddef, rwyf hefyd wedi synnu o ddarllen penawdau yn y cyfryngau yn dilyn cyhoeddi'r diweddariad oedd yn dweud ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol, oherwydd fy nealltwriaeth i o hynny hyn yw bod y panel yn lled-gadarnhaol, a dyna rwy'n credu dylai fod yn sylfaen i'n disgwyliadau.
Rwyf eisiau talu teyrnged i waith y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Maen nhw wedi defnyddio'u profiad i helpu i ysgogi newid yn y bwrdd iechyd hwn. A gaf i hefyd, Gweinidog, fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol y staff rheng flaen diwyd y mae'n rhaid eu bod wedi teimlo loes calon a digalondid mawr oherwydd methiannau gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd hwn a'r beirniadu a fu arnynt? Gobeithiaf fod agweddau cadarnhaol yr adroddiad hwn yn dangos bod pethau'n dechrau gwella a bod gwasanaethau mamolaeth ac, yn wir, y bwrdd iechyd cyfan bellach yn gwneud cynnydd a bod adolygiad gwirioneddol yn cael ei gynnal nid yn unig ym mhob agwedd ar y gwasanaethau mamolaeth ond mewn mannau eraill yn y bwrdd.
Roeddwn yn falch iawn o glywed bod y lefel staffio bellach ar raddfa briodol a bod arolygon ddwywaith yr wythnos o wasanaethau cyngor a chyswllt â chleifion wedi bod yn gyson gadarnhaol. Roedd hi hefyd yn galonogol iawn, Dirprwy Lywydd, clywed am yr adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliadau dirybudd y cyngor iechyd cymuned a'r adroddiadau cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â Chanolfan Eni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rwyf, fodd bynnag, yn gochel rhag barnu faint y mae pethau wedi newid nes inni glywed am yr adroddiad sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y mis hwn am yr uned famolaeth yn Ysbyty y Tywysog Siarl ei hun.
Mae meysydd sy'n peri pryder o hyd, yn enwedig mewn cysylltiad â chyflymder y newid a chyflymder yr ymateb i geisiadau am wybodaeth a ddarperir i'r panel, felly, mae gennyf ambell gwestiwn yn y fan yma, Gweinidog. Deallaf nad yw'r panel ond wedi gallu cymeradwyo 25 o'r 79 cam gweithredu y gwnaethant gais i'r bwrdd eu cwblhau. Mae rhai o'r camau gweithredu hyn sy'n parhau heb eu cymeradwyo yn cynnwys gwelliannau mewn hyfforddiant, llywodraethu clinigol ac archwiliadau clinigol. Ydych chi'n fodlon â chyflymder y cynnydd, a pha amserlenni sydd gennych chi mewn golwg i gymeradwyo gweddill y camau hyn?
Rwy'n dal yn bryderus o ddarllen, Gweinidog, fod angen cyflymu pethau a gwell disgyblaeth weinyddol o hyd yn y ffordd y caiff y broses newid ei rheoli gan y bwrdd iechyd. Yn benodol, ni fu cymaint o gynnydd yn y fframwaith sicrwydd na chyda'r asesiad perfformiad integredig, sy'n fodd o fonitro ac asesu gwelliant hirdymor mewn canlyniadau. Gofynnwyd am gyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr, ond mae wedi cael ei ohirio i fis Ebrill. Byddwn wedi meddwl bod hyn yn allweddol mewn gwirionedd i gyflawni'r newid hwnnw; tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa sicrwydd y gallwch ei roi inni y caiff y terfyn amser hwnnw ei gyflawni, ar ôl cael ei ohirio unwaith yn barod.
Dywedodd y panel hefyd fod gwaith i'w wneud o hyd i ddatblygu'r cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth yn gynllun cyfrifol gyda cherrig milltir, targedau a chanlyniadau clir. Unwaith eto, Gweinidog, mae'n peri pryder imi nad yw hyn ar waith eto ac mae'r ffaith nad yw'n bod, byddwn yn awgrymu i chi, yn rhoi negeseuon cymysg iawn. Gan y byddai cael y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth hwnnw pan fo'r holl fater hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau mamolaeth yn allweddol. Mae angen inni ailennyn ymddiriedaeth yn y system. Mae angen i ni sicrhau bod teuluoedd yn teimlo'n ffyddiog yn y dyfodol. Hoffwn pe baech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pryd yr ydych chi'n disgwyl i hynny ddigwydd.
Mae'r dull o ymdrin â chwynion a phryderon yn parhau'n anghyson. Mae heriau sylweddol o hyd o ran mynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o gwynion ac nid yw'n ddigon da. Dylai hyn fod wedi bod yn fater o flaenoriaeth i helpu rhieni sy'n galaru i symud ymlaen. Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod pan ddaw etholwyr i'n gweld ni am unrhyw fater pryd byddant yn credu y bu camweinyddiad cyfiawnder, ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen. Ac ni all y rhieni hyn wneud hynny. Deallais o ddarllen erthygl newyddion ddoe fod mam wedi colli ei baban cynamserol yn 2015. Cytunodd y bwrdd iechyd eu bod wedi torri eu dyletswydd gofal, ond nid yw hi eto wedi cael ymddiheuriad gan y bwrdd. Rwy'n credu bod gwir angen i ni wneud cynnydd cyflym yn hyn o beth.
Bu bylchau o ran capasiti a gallu o fewn y tîm gwella. Er enghraifft, bu'n rhaid iddynt ohirio'r broses o weithredu'r rhaglen adolygiadau clinigol o un mis gan nad oedd y panel yn ffyddiog bod gan y bwrdd iechyd y trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi a sicrhau y gellid diwallu anghenion menywod a theuluoedd. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch a ydych chi'n credu bod y tîm gwella bellach yn addas at y diben ac a all gyflawni hyn?
Yn olaf, Gweinidog, rwyf yn derbyn bod newidiadau derbyniol wedi'u gwneud, ond mae problemau sylfaenol o hyd, sef materion sy'n treiddio drwy'r holl fwrdd iechyd. Gwelsom ddiffygion bach a diffygion mwy, efallai, hyd yn oed, mewn meysydd eraill. Mae llawer o'r personél allweddol wedi newid ac rwy'n croesawu hyn. Rwy'n derbyn bod angen amser i staff newydd ymgartrefu, ymgynefino, bwrw iddi a symud ymlaen. Ond a ydych chi'n ffyddiog—yn wirioneddol ffyddiog—fod y bwrdd newydd, gyda'r Cadeirydd a fu'n goruchwylio rhai o'r pethau a ddigwyddodd o'r blaen, mewn sefyllfa briodol, a bod gennym y personél cywir mewn swyddi dylanwadol iawn i gael y maen hwn i'r wal nawr? Oherwydd mae angen i ni allu cau pen y mwdl ar y bennod drist iawn hon o ran darparu gofal i famau a theuluoedd yn y GIG.