Part of the debate – Senedd Cymru am 5:24 pm ar 21 Ionawr 2020.
Mae hwnnw'n sylw sydd nid yn unig yn deg, ond yn un pwysig, a rhan o'n her ni ynghylch dymuno ffeirio diwylliant o gosbi am un sy'n dysgu yw cydbwyso hynny â galwadau'r bobl am atebolrwydd, boed ar y brig, neu yn y canol, neu ar waelod sefydliad hefyd. Felly, mae ofn y caiff pobl eu cosbi os byddant yn sôn am eu pryderon—mae hynny'n rhan o'r hyn a barodd i hyn gael ei guddio—ac mae'n ymwneud wedyn â'n gallu i dorri drwy hynny.
Mae hefyd, er hynny—. Pan edrychwch chi ar yr adroddiadau gan fenywod a theuluoedd a'r ffordd yr oedd rhai wedi cwyno am y modd y cawsant eu trin, roedd angen mewn gwirionedd ymrafael â'r diwylliant cyffredinol hwnnw oedd yn bodoli mewn rhai rhannau o'r tîm staff ac i chwalu rhywfaint ohono. Roedd hynny'n anodd oherwydd bod y staff hynny, pan gawsant eu symud, yn teimlo bod yna weithredu yn eu herbyn a'u bod yn cael eu cosbi. Felly, nid yw'n syml, ond rwy'n credu bod y cyfarwyddwr nyrsio yn arbennig wedi ymyrryd i wneud y peth priodol, o ran newid rhai o'r patrymau rota ac o ran yr arweinyddiaeth ar werthoedd ac arferion hefyd.
Mae'n bendant yn cynnwys undebau llafur, yn enwedig Coleg Brenhinol y Bydwragedd ac Unsain fel y ddau undeb llafur mwyaf, ac maent yn trafod yn uniongyrchol â'r bwrdd iechyd i geisio newid a gwella rhywfaint o hyn. Yn sicr, daeth hynny i'r amlwg yn y cyfarfodydd staff a gefais. Roedd yn newid sylweddol, o ddicter a siom a rhai pobl ddim yn teimlo balchder yn eu gwisg, i ragolwg llawer, llawer gwell gan y staff eu hunain. Felly, mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond mae angen gwneud mwy.