4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:59 pm ar 21 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 4:59, 21 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Rhaid inni fod yn ofalus wrth awgrymu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, oherwydd mae darllen y diweddariad diweddaraf yn dangos bod pryderon sylweddol o hyd, ac, mewn sawl ffordd, ar lefel eithaf sylfaenol. Fe wnaf i gyfeirio at sawl elfen o'r adroddiad:

'Mae mwy na dwy ran o dair...o'r camau gweithredu yn y cynllun gwella mamolaeth yn dal i fod yn waith ar y gweill';

'mae gwaith sylweddol o hyd i'w wneud er mwyn cyrraedd y safonau perfformiad y mae byrddau iechyd eraill yn eu cyflawni'; diffyg

'cerrig milltir, targedau a chanlyniadau clir';

'mae ffordd bell i fynd o hyd i wella systemau a phroses busnes hanfodol fel y rhai ar gyfer ymdrin â chwynion a phryderon'—

Mae'n rhestr eithaf hir—

'diffyg gallu mewn meysydd hollbwysig megis dadansoddi perfformiad, gwella ansawdd ac ymgysylltu â chleifion'.

Fe wnaf i grynhoi rhai o'm cwestiynau allweddol, tri neu bedwar cwestiwn efallai. Pam nad ydym ni eto wedi gweld datblygiad y metrigau a'r cerrig milltir allweddol a fydd yn caniatáu i'r panel trosolwg fesur yn union lle yr ydym ni arni er mwyn darparu asesiad cynnydd sy'n fwy seiliedig ar dystiolaeth

'gan ddefnyddio cyfuniad grymus o fesurau ansoddol a meintiol', i ddyfynnu o'r adroddiad? Rwy'n credu bod angen i ni weld datblygu ffyrdd o fesur yn llawer mwy eglur faint o gynnydd a wnaed wrth ymateb i'r sgandal.

O ran lefelau staffio, cwestiwn penodol: rydych chi'n cadarnhau yn eich datganiad, yn bwysig iawn, bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn cyd-fynd â'r lefelau y mae Birthrate Plus yn eu hargymell. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ei weld o'r adroddiad, nid yw'r panel yn gallu cymeradwyo hynny eto, oherwydd nid ydynt wedi gweld y cynllun gweithredu o hyd. Ar adeg ysgrifennu'r llythyr hwn, nid oedd pob swydd wag wedi'i llenwi. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni os oes rhywbeth wedi digwydd dros y tair wythnos diwethaf sy'n golygu bod y trothwy hwn bellach wedi'i gyrraedd, ond nad oedd hynny'n wir, mewn gwirionedd, adeg ysgrifennu'r adroddiad.

A wnewch chi egluro—y trydydd cwestiwn—pam rydych chi'n credu bod y panel yn dweud ei fod yn gynyddol bryderus ynghylch diffyg capasiti i sicrhau gwelliannau? Mae'n fy nharo, ar hyn o bryd, os oes elfennau sy'n destun pryder cynyddol, fod hynny'n rhywbeth a ddylai fod yn destun cryn bryder yn wir, ac efallai y dylai arwain at ymyrraeth ychwanegol i wneud yn siŵr fod y mater hwnnw o gapasiti yn y cam hwn yn cael sylw.

Yn olaf, pam, mewn perthynas â chwynion, yr ymddengys hi fod y diwylliant yn dal i fod mor amddiffynnol pan amlygir hynny fel mater o bwys? Rwy'n credu ein bod yn dal i glywed am staff clinigol yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cwyno. Ac o ran yr holl fater o newid diwylliant sydd ei angen, rwy'n credu, bod angen i ni fod â phwyslais clir o hyd, a bod yn rhaid cael fframwaith, rwy'n credu, ar gyfer dwyn rheolwyr y GIG i gyfrif yn y ffordd y mae staff clinigol yn cael eu dwyn i gyfrif er mwyn cynorthwyo i newid diwylliant a gweithredu hynny. Mae gennym ni reolwyr GIG rhagorol ym mhob rhan o'r GIG—fe wnes i gyfarfod â rhai rheolwyr rhagorol ac arloesol yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos diwethaf—ond, yn amlwg, bydd gennych chi reolwyr gwael ac mae arnom ni angen fframwaith i sicrhau y cânt eu dwyn i gyfrif yn union fel y byddem ni yn dwyn meddygon neu nyrsys i gyfrif, y gellir eu diswyddo os ydynt yn tangyflawni.

Rydym ni'n sôn yn y fan yma fel pe bai angen inni gael ein hatgoffa am rywbeth sydd yn un o'r materion mwyaf difrifol y gallem ni ymdrin ag ef erioed yn ein Senedd, y fath fater, fel y crybwyllwyd yma o'r blaen, y byddai wedi arwain at ymddiswyddiad Gweinidogion mewn gwledydd eraill, a fyddai wedi arwain at ddisgyblu neu ddiswyddo uwch reolwyr. Rwy'n credu bod angen i ni atgoffa ein hunain bod y ffaith nad yw'r pethau hynny wedi digwydd yma yn awgrymu bod rhai o'r gwersi mwyaf sylfaenol a ddylai fod wrth wraidd hyn oll yn dal heb eu dysgu.