Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 22 Ionawr 2020.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo ef ac i eraill ynglŷn â faint rydym yn ei wario ar welliannau a mannau cyfyng ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae ein rhestr o welliannau yn £600 miliwn, ac mae'n ymestyn o ben gorllewinol gogledd Cymru, yr holl ffordd ar draws at y ffin â Lloegr—rhaglenni gwaith pwysig iawn ar yr A55 a fydd yn gwella trafnidiaeth drawsffiniol a thrawsgymunedol, gan ddefnyddio prif ffordd gogledd Cymru.
Ond mae'n rhaid dweud nad yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae rheilffyrdd yn hanfodol bwysig hefyd ar gyfer teithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Dyna pam rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU, yn y gyllideb, yn gwneud taliad o £215 miliwn, sef, yn fras, y swm y byddem wedi disgwyl ei weld yn cael ei wario yng ngogledd Cymru pe bai Llywodraeth y DU wedi darparu'r un faint o fuddsoddiad y pen i'r rhanbarth ag y gwnaeth i rannau eraill o Loegr.