Achosion a Darfu ar Reilffyrdd

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth – Senedd Cymru am 2:25 pm ar 22 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 2:25, 22 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Hoffwn godi achos etholaeth y gallai fod wedi'i weld. Roedd un o fy etholwyr yn teithio ar drên o Birmingham i Aberystwyth, a bu'n rhaid iddo fynd allan yn Amwythig oherwydd un methiant ar y rheilffordd o Amwythig i'r Trallwng, ond collodd y bws a ddarparwyd yn lle'r gwasanaeth y cysylltiad trên yn y Trallwng ac felly bu'n rhaid iddo barhau'r daith gyfan i Aberystwyth, tair awr o hyd, ar fws, ond roedd yn fws deulawr gyda lle i gant o bobl a dim mynediad i gadeiriau olwyn, ac i mi, nid yw'n ymddangos ei fod yn gerbyd addas ar gyfer gwasanaeth yn lle trên am gymaint o amser ar ffyrdd o'r fath. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthyf faint o'r hen fysiau a'r bysiau anaddas hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gweithredu neu'n eu contractio gyda chwmnïau allanol a pha gynlluniau sydd ar y gweill i'w dileu'n raddol a chyflwyno cerbydau mwy addas yn eu lle.