Part of the debate – Senedd Cymru am 6:26 pm ar 22 Ionawr 2020.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), cefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig hwnnw.