Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 22 Ionawr 2020.
Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd â chwmnïau yn y sector, gyda Fforwm Modurol Cymru, a chyda chyrff cenedlaethol y sector ynghylch effaith bosibl Brexit. Mae cael perthynas fasnachu barhaus a dirwystr gyda'r UE yn bwysig iawn i'r sector modurol, ac yn wir, i sectorau eraill.