Part of 2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit) – Senedd Cymru am 3:08 pm ar 22 Ionawr 2020.
Gwych. Yn gynharach y tymor hwn, fe sonioch chi am yr angen i rannu mwy o weledigaeth ynglŷn â'r modd y llywodraethir y Deyrnas Unedig, a diwylliant newydd o barch cyffredin a chydraddoldeb yn y math o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae neges debyg yn cael ei chyfleu yn y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU'. Er enghraifft, mae cynnig 1 yn sôn am gynghrair wirfoddol o genhedloedd, a chynnig 8 am yr angen i'r pedair Llywodraeth weithio ar sail partneriaeth gyfartal. Croesawaf y ffaith nad ar ein perthynas â Senedd Ei Mawrhydi yn unig y mae'r ffocws, ond ar bob un o’r pedair deddfwrfa yn wir. Un o ganlyniadau Brexit yw ein bod wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Gan fod Cynulliad a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi ailgychwyn bellach, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gryfhau ei pherthynas rynglywodraethol ei hun â Stormont? Ac os felly, sut?