Part of the debate – Senedd Cymru am 3:11 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), y Bil taliadau uniongyrchol, gan Lywodraeth y DU ar 9 Ionawr 2020. Mae'r Bil hwn yn rhoi sylfaen gyfreithiol i Lywodraethau'r pedair gwlad barhau i weithredu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020, gan roi sefydlogrwydd mawr ei angen i’n ffermwyr yn y cyfnod hwn o ansicrwydd wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Bil y cytundeb ymadael, os caiff ei dderbyn gan Senedd y DU, o’i ddarllen ynghyd â’r cytundeb ymadael, yn datgymhwyso rheoliad y taliadau uniongyrchol a deddfwriaeth gysylltiedig arall yr UE sy’n llywodraethu cynllun 2020 yma yn y DU. Bydd y Bil taliadau uniongyrchol yn ymgorffori deddfwriaeth yr UE sy'n llywodraethu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020 mewn cyfraith ddomestig, ac yn darparu pwerau gwneud rheoliadau â therfyn amser i ddiwygio'r ddeddfwriaeth gorfforedig, gan sicrhau ei bod yn weithredadwy ar ôl i'r DU adael yr UE. Nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i wneud taliadau i ffermwyr yn 2020, bydd hefyd yn caniatáu i ni barhau i fonitro, archwilio a gorfodi safonau trawsgydymffurfio.
Er mwyn sicrhau bod y pwerau cyfreithiol angenrheidiol ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r Bil taliadau uniongyrchol drwy broses gyflym, a disgwylir i Gydsyniad Brenhinol gael ei roi erbyn 31 Ionawr. O ganlyniad i'r daith seneddol gywasgedig hon, ni fu modd i bwyllgor graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystod eu gwaith craffu ar Fil amaethyddiaeth y DU.
Mae'r darpariaethau yn y Bil taliadau uniongyrchol wedi'u cyfyngu i reoliadau taliadau uniongyrchol sy'n berthnasol i flwyddyn gynllun 2020 yn unig, ac maent yn hanfodol i sicrhau bod cymorth y taliadau uniongyrchol i'r sector amaethyddol yn parhau’n syth ar ôl Brexit. O ystyried yr amser sydd ar gael, credaf fod Bil y DU yn gyfrwng priodol i gyflawni hyn. Gan fod diben y Bil taliadau uniongyrchol yn ymwneud ag amaethyddiaeth a'r polisi amaethyddol cyffredin, rwyf o'r farn ei fod yn gwneud darpariaeth ynghylch materion datganoledig. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn yn y Bil ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym y pwerau angenrheidiol mewn pryd i barhau i gefnogi ffermwyr drwy'r cynllun taliadau uniongyrchol.
Fel rydym wedi'i ddweud yn glir wrth Lywodraeth y DU, roedd ein hargymhelliad i'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i Fil y cytundeb ymadael yn seiliedig ar bryderon penodol gyda'r Bil penodol hwnnw. Nid yw'r argymhelliad hwn, na phenderfyniad y Senedd, yn effeithio ar gysylltiadau rhynglywodraethol ehangach. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil taliadau uniongyrchol, ac rwy'n gwneud y cynnig.