Part of the debate – Senedd Cymru am 3:14 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyn trafod ein barn ynglŷn â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, hoffwn nodi mai ychydig iawn o amser a gawsom i'w ystyried ac i adrodd arno. Yn yr amser a oedd ar gael, ni fu modd ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol na darpariaethau'r Bil yn fanwl iawn. Wedi dweud hynny, yr hyn a wyddom yw y bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i dalu ffermwyr ar ffurf taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit.
Ers canlyniad y refferendwm ar Ewrop, mae'r pwyllgor wedi dangos cryn ddiddordeb yn nyfodol cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Yn ein hadroddiad ar Fil amaethyddiaeth blaenorol y DU, gwnaethom dynnu sylw at yr ansicrwydd digyffelyb a oedd yn wynebu ffermwyr Cymru yn y cyfnod yn arwain at Brexit. Rydym wedi nodi’n glir yr angen i ddarparu sefydlogrwydd i ffermwyr drwy sicrhau parhad y taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac edrychwn ymlaen at graffu ar gynigion terfynol y Llywodraeth pan gânt eu cyflwyno.
Ond mae unrhyw system newydd yn bell i ffwrdd o hyd. Tan hynny, bydd angen i ffermwyr ddibynnu ar y system y byddwn yn ei hetifeddu gan yr Undeb Ewropeaidd, y mae taliadau uniongyrchol yn rhan fawr iawn ohoni. Bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru wrth i ni adael yr UE. Gyda therfyn amser Brexit ychydig ddyddiau i ffwrdd yn unig, nid yw peidio â deddfu yn opsiwn—mae cynnwys darpariaethau yn y Bil yn bragmatig ac yn angenrheidiol. Felly, nid yw'r pwyllgor yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i’r Cynulliad gytuno ar y cynnig sy’n gysylltiedig â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a buaswn yn gobeithio y bydd pob Aelod yn gwneud hynny, gan y byddai peidio â gwneud hynny'n drychinebus i ffermwyr Cymru.