Part of the debate – Senedd Cymru am 4:56 pm ar 22 Ionawr 2020.
Mae rhyddid i symud yn agor gorwelion. Mae pobl sy'n byw yn ein plith yn ein cymunedau wedi elwa o'r rhyddid hwn—pobl a fydd yn awr yn gweld y gorwelion hynny'n diflannu. Mae'n ffenomen hynod a thrist iawn, ond dyma ni.
Crybwyllais y grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym fel pwyllgor, ac roedd eu tystiolaeth yn drychinebus: pobl sydd wedi byw am lawer o'u hoes yng Nghymru nad ydynt yn teimlo mwyach eu bod yn cael croeso oherwydd polisi'r Llywodraeth, oherwydd ansicrwydd ac oherwydd y rhethreg niweidiol iawn sydd wedi gwenwyno'r ddadl—y diafoliaid a gafodd eu dihuno gan rai elfennau o ddadl y refferendwm. Soniodd y bobl yn y grwpiau ffocws am y sefyllfa ddystopaidd oedd yn eu hwynebu, y rhwystrau yn eu ffordd rhag gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, y cylchoedd y mae'n rhaid iddynt neidio drwyddynt, y pryder sy'n gysylltiedig â darganfod mai dim ond statws preswylydd cyn-sefydlog a roddwyd i chi, a'r ffaith Kafkaesgaidd, hyd yn oed os ydych chi'n cael statws preswylydd sefydlog, nad ydych yn cael unrhyw brawf copi caled o'r statws hwnnw—fel rhyw rith hunllefus. Y peth a'm trawodd i'r byw oedd y straeon a glywsom am blant yn dod yn destun gwawd yn yr ysgol—mor ifanc â phump neu chwech oed—am nad yw eu rhieni wedi'u geni yma, neu am na chawsant hwy mo'u geni yma, a bod eu cyd-ddisgyblion yn dweud wrthynt, 'Fe wnaethom bleidleisio dros eich gweld chi'n mynd adref.' Pa fath o wlad ydym ni eisiau bod: un lle mae pobl sydd wedi dewis byw eu bywydau yma yn cael croeso a chefnogaeth, neu un lle rydym yn codi rhwystrau?
Mae'r adroddiad hefyd yn egluro pa mor ddinistriol a niweidiol fydd y trothwy cyflog o £30,000 i'n heconomi. Nid yw'r pris y mae Llywodraeth y DU wedi dewis ei roi ar y croeso a roddwn i rai dinasyddion yn cyd-fynd â'n hanghenion yng Nghymru. Ac mae ein hadroddiad yn dweud yn glir fod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn cyfrannu at ein heconomi yng Nghymru eisoes yn ennill llawer llai na'r trothwy hwnnw. Ac maent yn cyfri. Maent yn cyfrannu. Hwy yw ein cymdogion, ein cydweithwyr, ein ffrindiau. Oni chaiff hyn ei herio a'i newid fe gaiff effaith ofnadwy ar ein gwasanaethau, ar ein GIG, ond hefyd arnom ni fel pobl.
Lywydd, os ymwelwch â Shakespeare and Company ym Mharis—er y gallai hynny fod yn anos i'w wneud ar ôl Brexit, pwy a ŵyr? Ond os ewch yno, mae ganddynt ddyfyniad bendigedig ar y wal:
Peidiwch â bod yn anfoesgar wrth ddieithriaid rhag ofn mai angylion mewn cuddwisg ydynt.
Nawr, yn hyn o beth, rwy'n un o ddisgyblion John Donne. Rwy'n credu nad oes yr un ohonom yn ynys, nad ydym yn ddieithriaid go iawn i'n gilydd, ni waeth ble y cawsom ein geni. Rwy'n rhyngwladolwr, a chredaf yn gryf fod y ffordd rydym yn trin ein cyd-ddyn yn talu ar ei ganfed.
Mae gwladolion yr UE yn cyfrannu at ein cymdeithas. Ni fydd y cyfraniad hwnnw'n lleihau ar ôl Brexit, ac ni ddylai ein gwerthfawrogiad ohonynt leihau ychwaith. Dylem ni a'n polisïau ddilyn yr elfennau gwell yn ein natur, nid y rhai gwaethaf.