Part of the debate – Senedd Cymru am 4:49 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch i David Rees, Cadeirydd y pwyllgor am y ffordd y mae—wel, mae bob amser yn arwain y pwyllgor mewn modd rhagorol. Roedd hwn yn ymchwiliad pwysig iawn, ac rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig a'r adroddiad heddiw.
Credaf fod David wedi ymdrin â'n prif bwyntiau, ond gadewch i mi ymhelaethu arnynt. Nid wyf yn meddwl y cânt eu lleihau mewn unrhyw fodd wrth eu hailadrodd. Mae'n amlwg mai'r trothwy cyflog o £30,000 oedd y prif fater a wynebwyd gennym ac fel y nodwyd, mae hwnnw gryn dipyn yn uwch na lefel y cyflog cyfartalog yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn falch o weld bod hynny'n cael ei adolygu erbyn hyn. Ac rwy'n credu ein bod yn hollol iawn i argymell caniatáu rhywfaint o amrywio yng Nghymru pe bai'n aros ar £30,000, fel y gallem o leiaf ei addasu. Ond o ran y cynllun cyfan, clywsom gan gyflogwyr am y gost uwch y gallant ei hwynebu am recriwtio, yr anhawster penodol mewn sectorau mwy bregus, a hyd yn oed pe bai'r trothwy'n gostwng, efallai na fydd modd cael digon o weithwyr, fel y rhai mewn gofal cymdeithasol—yn enwedig os ydynt yn weithwyr rhan-amser, er enghraifft—bwyd-amaeth, lletygarwch. Mae'r rhain i gyd yn feysydd allweddol i economi Cymru.
Nodais innau hefyd y gyfradd is ymhlith dinasyddion yr UE yng Nghymru sy'n gwneud cais am y cynllun statws preswylydd sefydlog, ac mae gryn dipyn yn is na rhannau eraill o'r DU. Ac i ryw raddau, rhaid i mi ddweud bod hyn yn adlewyrchu fy mhrofiadau fy hun dros y flwyddyn neu'r 18 mis diwethaf gyda'r gymuned Roegaidd yn ne Cymru. Maent wedi lleisio'r pryderon hyn ynglŷn â gwybodaeth a sut i fynd ati, ac mae llawer ohonynt wedi bod yma ers degawdau, a rhai ohonynt yn Gypriaid Groegaidd sydd wedi bod yma er y 1970au. Rwy'n credu bod llawer iawn o ansicrwydd a phryder, a rhywfaint ohono'n gyfeiliornus mae'n siŵr, ond roedd y diffyg eglurder hwnnw'n broblem wirioneddol.
Ac os caf hysbysu'r cyd-Aelodau, Lywydd, y bydd cyflwyniad yn cael ei gynnal wythnos i heddiw yn ystafell gynadledda C a D ar gyfraniad y gymuned Roegaidd dros y 150 mlynedd diwethaf i Gaerdydd yn benodol, felly rwy'n annog yr Aelodau i ddod draw. Yn sicr, byddai'n gwneud y pwynt y mae David wedi'i wneud yn fyw iawn am ein hangen i groesawu mewnfudwyr gan eu bod yn rhoi cymaint i ni ac yn cyfoethogi ein treftadaeth ddiwylliannol ein hunain yng Nghaerdydd a de Cymru, ac mewn rhannau eraill o Gymru mae'n siŵr.
A gaf fi ddweud y byddai cynllun pwyntiau, os mai dyna a gawn yn y pen draw, yn caniatáu ar gyfer mwy o amrywio rhanbarthol o bosibl? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn gyndyn o fynd ar drywydd y math o gynllun a fyddai'n rhoi llawer o allu i amrywio rhywbeth fel y trothwy, a all fod yn anodd ei weinyddu, ond gallai caniatáu mwy o bwyntiau i fewnfudwyr sy'n dod yma i chwilio am waith, a gallu ymgartrefu yng Nghymru ac yn enwedig swyddi, efallai, fod yn ffordd ymlaen, a chredaf y dylid ystyried hynny'n ofalus iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'r meddwl a aeth i mewn i hynny gan Lywodraeth Cymru.
A hefyd, credaf y gellid cyfuno hyn â'r angen am restr o alwedigaethau lle ceir prinder o weithwyr, fel y bydd ganddynt yn yr Alban, a dechrau caniatáu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i ni, gan fod ein heconomi yn wahanol iawn i'r rhai sy'n eithaf agos atom o gwmpas Bryste, ac yn sicr o gwmpas Llundain a dyffryn y Tafwys. Felly, rwy'n credu bod y pethau hyn yn bwyntiau y gellid cyfiawnhau eu codi a'u hystyried, oherwydd rydym ar fin cael newid mawr i ymarfer o ran pobl o weddill Ewrop a fydd yn ceisio byw a gweithio ym Mhrydain ac yn ein hachos ni yn arbennig, yng Nghymru. Rhaid rheoli'r newidiadau'n ofalus iawn. Gallent effeithio ar lawer o bobl—y rhai sydd eisoes wedi ymgartrefu; mae mwy o duedd i'w perthnasau ddod yma i weithio lle mae ganddynt gysylltiadau teuluol. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau eithriadol o bwysig.
Er ein bod bellach ar fin mynd drwy holl realiti Brexit a'r newidiadau mawr, mae llawer o gyfleoedd o hyd i ymateb i'r pryderon digon dealladwy a gawn, hyd yn oed ar y cam hwn, drwy'r ymgynghoriadau a'r ymchwiliadau. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn yr ysbryd cywir, ac adeiladol buaswn yn dweud, wrth nodi'r pwyntiau hyn a gwneud awgrymiadau, a hyrwyddo rhai o'r pwyntiau sydd gennym a allai wella'r cynllun yn fawr, heb fod ynddynt unrhyw fwriad yn y bôn i danseilio'r agweddau ymarferol ar yr hyn a fydd yn ein hwynebu yn y byd ôl-Brexit. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.