Part of the debate – Senedd Cymru am 4:41 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw a chyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn fy enw ar ein hadroddiad ar y newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit a'i oblygiadau i Gymru. Gadewch i mi gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith, yn enwedig dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref newydd iddynt.
Mae ein hadroddiad yn edrych ar dri maes cyffredinol sy'n ymwneud â newidiadau i ryddid pobl i symud ar ôl Brexit, sef polisi mewnfudo ar ôl Brexit, gweithrediad cynllun preswylio yr UE, a'r achos posibl dros amrywiadau rhanbarthol i bolisi mewnfudo yn y dyfodol.
Cyhoeddasom yr adroddiad mewn tirlun polisi ansicr iawn. Dylwn nodi hefyd, er bod cenedligrwydd a mewnfudo yn faterion a gadwyd yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae nifer o gynigion penodol i Gymru ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU a'r ddadl ehangach ynghylch polisi sy'n haeddu ystyriaeth fanwl gan y Cynulliad hwn. At hynny, mae dyletswydd arnom i gynrychioli buddiannau pobl Cymru. Mae hynny'n cynnwys sicrhau bod yr effaith ar feysydd datganoledig yn cael ei hadlewyrchu ym mholisi'r DU.
Gan droi at ein hargymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru, gwnaed cyfanswm o 12 o argymhellion gennym ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 11 yn llawn, ac un mewn egwyddor. Rwy'n cydnabod y rheswm a roddwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhesymau pam mai mewn egwyddor yn unig y gallent ei dderbyn.
Yn ogystal â'n hargymhellion, rydym yn gwneud nifer o gasgliadau. Y casgliadau hyn oedd sail cyflwyniad ein pwyllgor i'r Swyddfa Gartref, ac mae'n ymwneud yn bennaf â gweithredu cynllun preswylio yr UE y byddaf yn ymdrin ag ef yn fanylach yn nes ymlaen. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r cynllun a bwriadwn ddod â'r achos i sylw'r Ysgrifennydd Cartref gan fod canlyniad etholiad cyffredinol 2019 tu ôl i ni bellach.
Bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf i bolisi mewnfudo ers degawdau. Yr hyn sy'n hollbwysig yw mai polisi'r Llywodraeth yw y bydd y rhyddid i symud yn dod i ben ac y bydd system fewnfudo newydd debyg i un Awstralia sy'n seiliedig ar bwyntiau yn disodli'r system bresennol.
Yn ganolog i hyn, ceir y cynigion ar gyfer trothwy cyflog o £30,000 y flwyddyn i'w gymhwyso i'r rhan fwyaf o fewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r DU o'r UE ar ôl Brexit. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r system bresennol ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn weithwyr o'r UE. Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gawsom yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y trothwy cyflog arfaethedig. Roedd llawer o bobl yn tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn ennill llai na'r trothwy cyflog hwnnw, hyd yn oed y rhai mewn swyddi canolig a medrus.
Roedd ein hadroddiad yn croesawu'r ffaith bod y pwyllgor cynghori ar ymfudo wedi cael y dasg o adolygu'r trothwy hwn. Wrth gynnal yr adolygiad, roedd yn amlwg i ni y dylai'r pwyllgor cynghori ar ymfudo ystyried y byddai trothwy cyflog o £30,000 yn gosod y bar ar lefel uwch na'r enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae ein set gyntaf o gasgliadau ac argymhellion yn tynnu sylw at y pryderon hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio popeth a all i sicrhau bod y trothwy'n cael ei ostwng er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun Cymreig yn well. Rwy'n nodi bod yna adroddiadau heddiw'n rhagweld y bydd y trothwy naill ai'n cael ei ddileu neu ei ostwng. Fe arhosaf am gyhoeddiad adroddiad y pwyllgor cynghori ar ymfudo, sydd i fod i gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Os yw'r adroddiadau hynny'n gywir, rwy'n croesawu'r posibilrwydd y caiff hyn ei newid.
Clywsom bryderon amrywiol hefyd ynglŷn â gweithrediad cynllun preswylio yr UE yng Nghymru. Llywiwyd ein gwaith ar gynllun preswylio yr UE gan fforwm ar-lein a thrafodaethau wyneb yn wyneb â dinasyddion o wledydd eraill yr UE sy'n byw yng Nghymru a chynrychiolwyr elusennau a sefydliadau sy'n gweithio gyda hwy fel unigolion a theuluoedd.
Yn benodol, clywsom am lefelau cofrestru isel yng Nghymru o'u cymharu â gwledydd eraill y DU. Roedd y ffigurau ym mis Tachwedd 2019 yn nodi bod oddeutu 59 y cant o ddinasyddion yr UE yng Nghymru wedi gwneud cais i'r cynllun, o'i gymharu â 79 y cant yn Lloegr, 63 y cant yn yr Alban, a 66 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rydym ar waelod y lefelau hynny. Tynnwyd sylw at bryderon ynghylch yr elfennau digidol diofyn o'r cynllun a'r ymwybyddiaeth gyffredinol o sut a ble i gael gafael ar y cyngor a'r cymorth. Nawr, rydym yn rhannu'r pryderon hyn, a nodasom farn pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar gyfiawnder yr UE fod y diffyg dogfennaeth ffisegol a ddarperir i ddinasyddion yn dangos elfennau sy'n debyg i sgandal Windrush.
Mae'n amlwg fod gan y ddwy Lywodraeth rôl i'w chwarae yma o ran rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE ddefnyddio'r cynllun, a hefyd o ran rhoi sicrwydd y bydd eu statws yn ddiogel ac yn barhaol ar ôl Brexit. Dyma pam y galwn ar Lywodraeth Cymru i roi arweiniad cryfach o ran cyfeirio dinasyddion at y pecyn o fesurau sydd ganddi i'w cefnogi, ac i ailadrodd ei negeseuon o gefnogaeth yn uchel i ddinasyddion yr UE yma. Wrth gyfleu'r neges hon, dylem gofio hefyd fod ein cydweithwyr yn Senedd Ewrop hefyd wedi dangos diddordeb brwd yn hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Yn wir, mae ffigurau allweddol yn Senedd Ewrop wedi dweud dro ar ôl tro y bydd hawliau dinasyddion yr UE ymysg eu prif ystyriaethau pan ddaw'n fater o roi eu barn a ddylid cefnogi cytundeb ymadael y DU â'r UE ai peidio, ac os wyf yn iawn, bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf.
A dylem fod yn gwbl ymwybodol, felly, fod Senedd Ewrop wedi pasio cynnig yr wythnos diwethaf—gyda 610 o blaid, 29 yn erbyn, a 68 yn ymatal, felly mwyafrif go fawr—yn mynegi pryderon eang am ddull Llywodraeth y DU o sicrhau hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Mewn llawer o feysydd, roedd y pryderon hyn yn debyg i'n rhai ni, gan gynnwys diffyg dogfennaeth ffisegol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, a materion yn ymwneud â hygyrchedd y cynllun. Felly, rwy'n ailadrodd galwadau ein pwyllgor am i'r materion hyn gael sylw fel mater o frys.
Roedd ein trydedd thema ganolog yn ystyried a oes achos dros reolau mewnfudo gwahanol i Gymru ar ôl Brexit. Cawsom gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn amlygu heriau demograffig ac anghenion economaidd penodol Cymru. Mae'r heriau, yn enwedig poblogaeth sy'n heneiddio, yn debygol o waethygu wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ar ben hynny, mae'n wir fod rhai sectorau o'r economi yn debygol o ddioddef yn waeth nag eraill wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ni ddaethom i gasgliad cadarn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru wasgu am fwy o reolaeth dros y system fewnfudo yng Nghymru ar ôl Brexit. Fodd bynnag, hoffem dynnu sylw'r Cynulliad at enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn fwyaf nodedig yng Nghanada ac Awstralia, lle mae gwahaniaethu o'r fath yn digwydd.
Ac yn yr un modd, cytunasom y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith i archwilio polisi mewnfudo sy'n gwahaniaethu'n ofodol ar ôl Brexit. Dylai hyn gynnwys ymchwil ar dueddiadau demograffig yn y dyfodol ac effaith bosibl lefelau is o ymfudo ar economi Cymru. Hyd nes y gwneir hynny, ni fydd gennym y sylfaen dystiolaeth gadarn sydd ei hangen i lywio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol, wedi'i deilwra i anghenion Cymru. A nodais yn ymateb Llywodraeth Cymru fod yr awgrym o ostyngiad yn y boblogaeth yn y blynyddoedd i ddod yn rhywbeth y mae angen i ni fyfyrio yn ei gylch, yn enwedig gan ein bod yn boblogaeth sy'n heneiddio. Os bydd y boblogaeth yn lleihau, mae'n fwy tebygol nad yw'r bobl iau yn mynd i fod yma.
Yn olaf, cyn cloi fy sylwadau agoriadol, hoffwn ystyried y neges bwysicaf o bosibl a gesglais o'n gwaith yn y maes hwn. Clywsom yn uniongyrchol gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru am y dreth y mae rhethreg negyddol ynghylch ymfudo yn ei chael ar eu lles emosiynol hwy a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Galwaf ar bob un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon a chynrychiolwyr etholedig eraill ar bob lefel, o bob plaid wleidyddol, i ystyried yr effeithiau niweidiol y mae peth o'r rhethreg a'r iaith a ddefnyddiwyd mewn perthynas â mewnfudo yn eu cael ar y bobl yr effeithir arnynt. Efallai nad ydym bob amser yn deall y geiriau a ddefnyddiwn a'r effaith y maent yn ei chael ar bobl. Mae angen inni fod yn ofalus. Mae dyletswydd arnom i weithredu ar ran y bobl a ddywedodd wrthym eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt ac nad oes mo'u heisiau yn ein gwlad oherwydd yr iaith a ddefnyddir, a'r iaith honno'n cael ei hailadrodd gan unigolion yn ein bywyd cyhoeddus. Mae dyletswydd arnom i arwain ar hynny. Mae angen inni sicrhau bod y bobl hyn—sydd yma i helpu a gweithio, pobl nad ydynt yma am unrhyw reswm arall—yn teimlo'n gartrefol, eu bod yn teimlo'n rhan o'n cymuned. Maent am fod yn rhan o'n cymuned. Ein gwaith ni yw sicrhau bod y genedl yn siarad un iaith groesawgar wrth y bobl hyn. Dyna pam rwy'n dweud heddiw ein bod yn sefyll gyda chi.
Felly, cyflwynaf y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r adroddiad.