Part of the debate – Senedd Cymru am 5:17 pm ar 22 Ionawr 2020.
Cyn imi droi at sylwedd yr adroddiad a'r tri phwnc dan sylw ynddo fe, sef y cynigion ar gyfer system fewnfudo yn y dyfodol, gweithredu'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a'r dadleuon dros wahaniaethau mewn dulliau mewnfudo rhwng cenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, gaf i, cyn hynny, fanteisio ar y cyfle hwn i siarad yn uniongyrchol â'r dinasyddion hynny o rannau eraill o Ewrop sydd wedi dewis ymgartrefu yma yng Nghymru, i fwrw eu gwreiddiau ac i gyfoethogi ein cymunedau ni? Hoffwn i eich sicrhau chi ein bod ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad chi at Gymru, ac y bydd bob amser croeso i chi yma.
Gan droi yn gyntaf at y system fewnfudo yn y dyfodol, mae'n parhau'n aneglur beth fydd y system a sut y bydd yn cael ei gweithredu. Heblaw am y dywediadau ynglŷn â rhoi diwedd ar y rhyddid i symud ac adennill rheolaeth dros ein ffiniau, doedd dim manylion, a dweud y gwir, ar gael am dros ddwy flynedd cyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ym mis Rhagfyr 2018. Ond, ers ethol Boris Johnson, nid yw hi bellach hyd yn oed yn glir a yw hynny'n adlewyrchu safbwynt y Llywodraeth bresennol.
Er gwaethaf hynny, rŷm ni'n dal i gael ar ddeall mai'r bwriad o hyd yw i'r system fewnfudo newydd fod ar waith yn llawn o'r 1 Ionawr 2021, llai na blwyddyn i ffwrdd erbyn hyn. Ond, gadewch inni fod yn gwbl glir: bydd polisi mudo'r Deyrnas Unedig yn cael effaith ddofn ar gymunedau ac ar economi Cymru. Yn wahanol i'r dryswch o fewn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, rŷm ni wedi egluro ein blaenoriaethau ni ar gyfer polisi mudo yn eglur. Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', gwnaethom gynnig y dylid cadw rhyddid symud, ond ei gysylltu'n agosach â chyflogaeth, ac rŷm ni'n dal i gredu hynny.