Part of the debate – Senedd Cymru am 5:26 pm ar 22 Ionawr 2020.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ganiatáu i mi gyfrannu ar y cam hwyr hwn. Wrth wylio'r ddadl hon, clywais y gair 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio. Nid wyf yn gwybod beth yw ystyr 'brodorol', oherwydd mae pawb yn y Siambr hon yn ddisgynyddion i fewnfudwr. Nid yw ond yn fater o ba bryd y daeth ein teuluoedd yma. A fyddech yn cytuno â mi, pan ddefnyddir y gair 'brodorol', fod modd iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd lawer casach nag y byddai'n ymddangos ar yr olwg gyntaf?