Part of the debate – Senedd Cymru am 5:33 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch i'r Aelod am ildio. A yw'n rhannu fy nhristwch na fydd dinasyddion y DU ond yn gallu byw a gweithio mewn dwy wlad bellach—y DU a Gweriniaeth Iwerddon—tra bydd dinasyddion yr UE yn gallu gweithio mewn 28 o wledydd a bydd dinasyddion Iwerddon yn gallu gweithio mewn 29 o wledydd, fel fy ngwraig a fy nau blentyn? Ac onid yw'n drist gweld hynny, ac onid yw'n wir mai'r dinasyddion a fydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i roi diwedd y rhyddid i symud yw dinasyddion y DU mewn gwirionedd?