Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf am fynd drwy'r cynnig cyfan, oherwydd credaf ein bod wedi mynegi llawer o hynny mewn dadl flaenorol, felly fe af drwy'r gwelliannau.
Credaf ei bod braidd yn eironig fod y Torïaid yn dweud eu bod am i bobl gyflawni eu potensial, gan fod ein gwelliant cyntaf yn rhywbeth a allai gael ei fygwth gan hynny, oherwydd yr ansicrwydd posibl ynghylch dyfodol Erasmus+, a fu'n rhan hanfodol o'r cymysgedd addysg mewn addysg uwch ac addysg bellach ers nifer o flynyddoedd, a gall sefydliadau ieuenctid ac ysgolion ymgeisio am Erasmus yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Mae'r potensial ar gyfer gwella sgiliau yn glir a gall Erasmus gynnig profiad gwerthfawr o ffyrdd newydd o weithio ac astudio, gan roi cipolwg ar arferion gwahanol o bob rhan o Ewrop a gwella cyflogadwyedd a rhagolygon y rhai sy'n cymryd rhan. Y llynedd, sicrhaodd ColegauCymru £1.57 miliwn o gyllid Erasmus+ ar gyfer colegau addysg bellach ac mae'r colegau'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi symudedd Ewropeaidd ar gyfer eu dysgwyr a'u staff, er gwaethaf ansicrwydd Brexit. A bydd y cyllid hwn yn galluogi dros 640 o ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi gyffrous honno.
I rai myfyrwyr sy'n dod o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig iawn yng Nghymru, mae hwn yn brofiad sy'n newid bywyd. Nid oedd gan un myfyriwr gofal plant a aeth i wneud lleoliad gwaith am bythefnos yn yr Eidal basbort hyd yn oed ac nid oedd erioed wedi teithio ar ei phen ei hun cyn hynny. Felly, mewn gwirionedd, pe na bai wedi cael y cyfle hwnnw, efallai na fyddai erioed wedi cael cyfle i astudio mewn gwlad arall ac ehangu ei gorwelion, a chredaf fod angen i rai ohonom yn yr ystafell hon wneud mwy o hynny.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i barhau'r berthynas academaidd rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys drwy'r rhaglen Erasmus+ nesaf os yw o fudd i ni wneud hynny.
Sut nad yw er budd Cymru i fod yn rhan o'r rhaglen hon? Nid wyf yn gwybod pam roeddent hyd yn oed yn trafferthu defnyddio'r gair hwnnw. Gallant weld, oni allant, pa mor bwysig yw Erasmus i bobl Cymru? Byddent yn ffôl i roi'r gorau i'w hymwneud â'r rhaglen.
O ran ein gwelliant 1, dylid ystyried prentisiaeth nid yn unig yn bwynt mynediad i un math o gyflogaeth fedrus, ond yn brofiad addysgol hefyd. Ac mae llawer o brentisiaid yn dweud wrthym, ac maent wedi dweud wrth fy swyddfa, y byddent yn hoffi cael opsiwn a mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg a sgiliau eraill. Ac yn fwyaf arbennig, mae prentisiaid ifanc a'r rheini ar brentisiaethau lefel sylfaen yn dweud wrthym y gallant deimlo, ar adegau, eu bod wedi'u hymddieithrio a heb fod yn rhan o'r gymuned addysg bellach ehangach. Mae cynnal ansawdd yn hanfodol hefyd, ac er bod y mwyafrif helaeth o ddarparwyr yn cynnig prentisiaethau o safon uchel, gan ganolbwyntio ar y sgiliau a'r gwaith a fwriadwyd, nid yw rhai ohonynt yn gwneud hynny ac mae rhai'n well na'i gilydd.
Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, ac fe'i dywedaf eto: dywedwyd wrthym am un enghraifft lle roedd menyw ifanc ar brentisiaeth mewn cwmni pensaernïaeth yng Nghymru pan ddaeth yn amlwg fod derbynnydd, ar ryw bwynt yn ystod y brentisiaeth, yn absennol oherwydd salwch, a chafodd ei thynnu i mewn yn lle'r derbynnydd ac ni ddychwelodd i wneud y cwrs prentisiaeth roedd hi yno i'w wneud. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dramgwydd mawr, mewn gwirionedd, fod dynes wedi cael ei hamddifadu o'r profiad hwnnw.
Dengys hyn fod angen proses well, fwy ffurfiol ac unffurf, o sicrhau ymgysylltiad parhaus â phrentisiaethau, a gallai gynnwys partneru pob prentis dan 21 oed yn ffurfiol â choleg addysg bellach er mwyn sicrhau cymorth priodol, gan gynnwys mynediad i ddiwrnodau coleg neu hyfforddiant/addysg oddi ar y safle mewn sgiliau allweddol neu ddewisiadau addysg eraill y gallai'r prentis fod eu heisiau, ac mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach i sicrhau mynediad at leisiau myfyrwyr yn y sefyllfa addysg bellach honno.
Mae amser yn brin, felly ein gwelliant 4: costau byw a chyflogau yw un o'r rhwystrau mwyaf arwyddocaol i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yn y gwaith. Er y byddem ni ym Mhlaid Cymru eisiau i'r Cynulliad gael pwerau dros lefelau cyflog statudol, nid yw'r pwerau hynny gennym. Ond mewn egwyddor, dylem gydnabod bod tâl yn rhwystr sylweddol.
Cydnabu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wyf yn aelod ohono y broblem hon mewn adroddiad a gyflwynwyd yn 2018, lle dywedasom fod angen grant cynhaliaeth ar gyfer prentisiaethau, sy'n debyg i gynhaliaeth a roddir i'r rhai sy'n aros mewn addysg amser llawn. Ar hyn o bryd, yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pob prentis blwyddyn gyntaf, boed yn 16, 26 neu 46 oed, yw £3.90 am bob awr o waith, hyfforddiant neu astudio. Dyna £7,605 y flwyddyn. Sut y mae hyn yn caniatáu i rywun a allai fod ag ymrwymiadau ariannol ac sydd am gael prentisiaeth allu ailhyfforddi? Ni chredwn fod hynny'n digwydd yn dda iawn ar hyn o bryd a chredwn y dylid unioni hyn i gynyddu tâl y flwyddyn gyntaf i'r isafswm cyflog cyfatebol sy'n berthnasol i oedran rhywun.
Mae llawer o bwyntiau eraill y byddem wedi hoffi eu hychwanegu at y cynnig hwn, ond ni allwn drafod hynny heddiw. Dylem edrych ar adolygiad Augar ar gyfer Lloegr fel ein bod yn annog mwy o astudio rhan-amser. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed iawn yn y maes ac wedi gwella'r ystadegau hynny. Hoffem weld prentisiaethau gradd yn ehangu ymhellach, a deall yr angen i weld y niferoedd sy'n cymhwyso yn cyfateb i'r sgiliau sydd eu hangen, ond ni all hyn fod yn unig ffocws gan na fydd yn gynaliadwy.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw'r un a wneuthum mewn cwestiynau i'r Gweinidog yr wythnos hon. Mae'n ymwneud ag edrych yn fanwl ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r draen dawn yma yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi ac annog pobl i aros yn sefydliadau Cymru fel y gallwn annog y sefydliadau hynny i lwyddo ac i ffynnu yn y dyfodol.