Part of the debate – Senedd Cymru am 5:47 pm ar 22 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r siaradwyr blaenorol wedi hyrwyddo pwysigrwydd y sector addysg bellach yma yng Nghymru, ac wedi tynnu sylw at enghreifftiau rhagorol o'r sgiliau a'r cyrsiau y mae ein darparwyr addysg bellach yn eu cyflwyno. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol fod ein darparwyr yn gallu parhau i gyflwyno'r sgiliau hanfodol hyn.
Yn fy etholaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, mae Coleg Sir Benfro yn cynnig cyfoeth o wahanol raglenni, o'r Safon Uwch draddodiadol i brentisiaethau a chyrsiau dysgu sy'n seiliedig ar waith, a'r amrywiaeth hon o ddewis sy'n gwneud addysg bellach mor atyniadol i lawer o bobl ar draws Cymru.
Nawr, nid yw pawb yn gallu astudio rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, nid yw mynd ar drywydd gradd academaidd strwythuredig yn addas i bawb, ac felly mae'r cyfleoedd dysgu hyblyg sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr addysg bellach yn hanfodol i rieni, pobl hŷn a'r rhai mewn gwaith amser llawn. Mae darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn agor eu drysau i fyfyrwyr o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ac felly maent yn ganolog iawn i'r gwaith o wella sgiliau'r genedl a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes.
Wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i ddysgwyr, ond maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i economi Cymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyflawnwyd gan y cwmni modelu economaidd, Emsi, ein bod yn derbyn £7.90 am bob £1 a fuddsoddir mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, gyda'r gyfradd enillion flynyddol gyfartalog ar eu buddsoddiad yn 24 y cant. Rwy'n credu y dylem ystyried am eiliad pa mor werthfawr yw'r buddsoddiad hwnnw.
Mae colegau'n dod â chyfoeth i mewn i'w rhanbarth trwy gyflogi staff sy'n gwario ar nwyddau a gwasanaethau, a sgiliau'r gweithlu a ychwanegir at y rhanbarth gan fyfyrwyr sy'n dod o hyd i waith yn yr ardal ar ôl gadael. Yn hynny o beth, mae colegau a darparwyr addysg bellach yn fentrau cymdeithasol, sy'n gweithio gyda dysgwyr o bob oed trwy wella eu cyflogadwyedd a gwella eu potensial fel unigolion. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn galw am fwy o'r math hwn o weithgarwch yn ein system ysgolion fel ffordd o hyrwyddo sgiliau bywyd a mentergarwch, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar annog ysgolion uwchradd i sefydlu mentrau cymdeithasol i'w rheoli a'u rhedeg gan y disgyblion.
Wrth gwrs, un o'r ffyrdd pwysicaf o ddarparu sector addysg bellach cryf yng Nghymru yw drwy sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu ar sail fwy hirdymor, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar yn gynharach. Yn y gorffennol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull mwy integredig a mwy hirdymor o ddarparu cyllid addysg bellach, gan y byddai dull mwy hirdymor yn sicr yn helpu colegau i gynllunio'n fwy effeithiol yn y tymor canolig ac yn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd yn y sector.
Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y newid i gyflwyno dyraniadau cyllid un flwyddyn wedi arwain at gymorth gwell i sefydliadau addysg bellach allu cynllunio ar gyfer y tymor canolig, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o fod yn wir ei fod wedi cael effaith negyddol ar ddenu myfyrwyr. Mae'r trefniadau ariannu anghyson yn y sector wedi effeithio ar niferoedd staff hefyd. Gwyddom fod cyfanswm y staff sydd gan ddarparwyr addysg bellach ychydig dros 9,300 yn 2012-13. Gostyngodd i oddeutu 7,800 yn 2015-16, cyn cynyddu i oddeutu 8,500 yn 2017-18. Felly, mae'n eithaf clir fod angen buddsoddi yn y gweithlu addysg bellach er mwyn sicrhau bod ei sgiliau a'i arbenigedd yn parhau i fod yn gyfredol ac y gall gynnal cysylltiadau â diwydiannau eraill.
Mae Cymru'n wlad uchelgeisiol, ond yn awr mae angen inni gynnal yr uchelgais hwnnw â'r rhwydweithiau cywir i sicrhau bod cyfleoedd lleol ar gael. Hefyd, mae angen inni sicrhau bod unrhyw strategaeth yn cael ei chydlynu ag adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn gallu gweld y darlun llawn. Er enghraifft, mae'n hanfodol fod gan ardaloedd lleol rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau, yn enwedig dysgwyr mewn ardaloedd gwledig. Mae angen inni sicrhau hefyd fod dysgwyr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach. Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o gefnogi'r sector addysg bellach yng Nghymru, mae'n hanfodol ei bod yn mabwysiadu dull o weithredu sy'n cwmpasu pob adran, fel bod Gweinidogion yn ystyried y darlun ehangach pan ddaw'n fater o gefnogi'r sector.
Ddirprwy Lywydd, er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol, rhaid inni sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael digon o gefnogaeth a bod dysgwyr yn gallu dilyn y cyrsiau a'r rhaglenni y maent yn eu cynnig. Mae darparwyr addysg bellach yn ymateb i anghenion sgiliau eu hardal leol ac yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Benfro ei bumed digwyddiad cinio i gyflogwyr, a noddwyd gan Dragon LNG ac a gefnogwyd gan gyflogwyr lleol fel porthladd Aberdaugleddau, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyma'r math o gydweithredu y mae'n rhaid i ni adeiladu arno a'i ddatblygu er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y gweithle. Felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried ffurf y sector addysg bellach yn y dyfodol yn ofalus a sicrhau ei fod yn cael y buddsoddiad hollbwysig sydd ei angen arno, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.