Part of the debate – Senedd Cymru am 6:20 pm ar 22 Ionawr 2020.
Wedyn, gwnaeth nifer o'r Aelodau y cysylltiad rhwng colegau addysg bellach a chyflogwyr, unwaith eto. Dechreuodd David Rowlands, yn deg iawn yn fy marn i, drwy dalu teyrnged i raglenni galwedigaethol Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, a chanmolodd yr hyn a oedd wedi bod yn llawer o weithgarwch cadarnhaol yn ei farn ef. Yna, dychwelodd at ei araith flaenorol yn y ddadl a gawsom yn gynharach, a chafwyd llawer o anghydfod geiriol ynglŷn ag un gair penodol, nad wyf yn mynd i'w grybwyll. Ond rwy'n credu bod angen inni fod ychydig yn fwy caredig wrth ein gilydd weithiau. Rwy'n meddwl mai cywair, cyd-destun a bwriad yw'r hyn sy'n gyrru'r defnydd o eiriau, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r rhwystredigaeth a deimlai yn gynharach.
Yna siaradodd Andrew R.T. Davies am golegau addysg bellach fel y prif lwybr i lawer o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn sôn llawer am brifysgolion, a hynny'n ddigon priodol, ond i lawer o fyfyrwyr, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy perthnasol, ac roeddwn yn meddwl bod hynny wedi adfer cydbwysedd y ddadl. Soniodd, wrth gwrs, am y sector amaethyddol—byddem yn disgwyl hynny—ond gyda'r fath rym, ac ef oedd yr unig un i fynd i'r afael â hyn yn y ddadl y prynhawn yma. Yn anffodus, oddeutu 1 y cant yn unig o brentisiaethau sydd yn y sector amaethyddol ar hyn o bryd, ac mae honno'n ystyriaeth ddigon digalon. Soniodd am y buddsoddiad cyfalaf mawr a welwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a deallaf fod yna enghreifftiau eraill. I unrhyw un sy'n mynd i safle Heol Dumballs—mae'n bleser pur gweld y myfyrwyr yno wedi'u hamgylchynu gan y cyfleusterau rhagorol hyn. Rwy'n argymell y bwyty yno, ymysg llawer o bethau eraill sydd ganddynt.
Janet Finch-Saunders, roeddwn yn meddwl mai chi oedd â'r ddelwedd orau heddiw: sgiliau yw'r ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Gwnaeth y ddelwedd honno argraff ar bobl a gwneud iddynt feddwl pa mor bwysig yw hi ein bod yn unioni'r llyffethair a welwn ar hyn o bryd mewn gormod o feysydd am nad ydym yn cryfhau sgiliau cymaint ag y dylem. Oherwydd maent yn ysgogi gwelliant mewn perfformiad economaidd yn ogystal â dod â budd mawr i unigolion. Fe sonioch chi hefyd fod dylanwad y sector preifat yn bwysig, a'r partneriaethau sydd yno fel y gall cyflogwyr yrru llawer o'r dulliau strategol o ddatblygu sgiliau. Rwy'n credu bod y rhain yn bwyntiau pwysig iawn. O ran sgiliau, buaswn yn ychwanegu mai dyna'r ysgogiad gorau sydd gennym yn ôl pob tebyg. Mae gennym lawer o bŵer yno, a dylid dweud ein bod yn gwario llawer o arian hefyd. Mae angen inni wneud hynny'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf ei fod yn cael ei anghofio weithiau—pa mor bwerus yw'r ysgogiad hwnnw i sefydliad datganoledig.
Atebodd Kirsty wedyn, a chytuno â llawer o'r hyn a gyflwynwyd gennym, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella sgiliau, fel y dywedodd y Gweinidog, er mwyn i Gymru allu ffynnu. Nid wyf yn credu bod neb yn amau nad yw'r ymrwymiad hwnnw'n un diffuant iawn a bod hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer economi ôl-Brexit. Ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno.
Gyda'ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt hwn, awgrym o feirniadaeth. Fe feddyliais fod rhywfaint o naws ddidactig yn eich anerchiad ar y pwynt hwnnw wrth i chi ddweud y drefn wrthym am fod â chynnig a oedd yn cyfeirio at yr hyn a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. 'Wel, mae hon yn rhyw fath o ganmoliaeth mewn ffordd', meddyliais, ond wedyn fe wnaethoch chi ryw lun o'i difetha drwy ddweud ei bod yn amhosibl cael cyllidebau tair blynedd. Mae'r amgylchedd ariannol wedi bod yn heriol iawn—mae hynny'n sicr yn wir. Rydym wedi cael newidiadau mawr o ran gweinyddiaethau, ac etholiad cyffredinol wedyn, ac mae llawer o hyn wedi arwain at heriau pellach. Rwy'n eich atgoffa'n gwrtais mai eich plaid chi a'r Blaid Lafur a'n rhwystrodd rhag cael etholiad cyffredinol cynharach. Pe bai hynny wedi digwydd yn gynharach yn yr hydref—[Torri ar draws.]—efallai y byddai'r pethau hyn wedi bod ychydig yn haws i'w rheoli.
Rwy'n derbyn y pwynt nad yw ein dulliau cyllidebu yn y DU wedi gweddu'n dda iawn i gyllidebau tair blynedd. Mae angen i ni wella yma, fel ein bod yn datblygu cyllidebau dangosol a dulliau gweithredu lle ceir rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â'r lefel a fydd yn cael ei rhoi. Nid wyf yn meddwl—o leiaf, rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y math o aflonyddwch ariannol sydyn a gawsom yn ystod yr argyfwng ariannol. Felly, nid wyf yn credu y cawn newid sydyn yn null Llywodraeth y DU o weithredu, ac maent wedi dweud ein bod bellach yn symud tu hwnt i'r cyfnod o gyni ariannol.
A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn credu bod y pwynt a wnaethoch am yr angen i edrych ar sgiliau uwch wedi'i wneud yn dda iawn ac wedi ychwanegu llawer at y ddadl? Rhaglenni gradd Meistr: mae llawer o dystiolaeth eto eu bod hyd yn oed yn bwysicach i economi na'r nifer sy'n cwblhau PhD, oherwydd mae llawer o bobl sy'n gwneud rhaglenni Meistr yn awyddus i'w defnyddio wedyn mewn modd entrepreneuraidd. Felly, roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaethoch yn ffordd gadarnhaol iawn o orffen.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio.