Part of the debate – Senedd Cymru am 5:56 pm ar 22 Ionawr 2020.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl heddiw. Mae'n werth ystyried nad yw dwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol, ac mewn gwirionedd, y sector addysg bellach, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, yw'r prif lwyfan dysgu ar eu cyfer er mwyn iddynt wella eu rhagolygon gyrfa. Rwy'n credu bod honno'n ystyriaeth bwysig. Crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid y nifer enfawr o staff sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ein colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, sef 9,330 yn 2013, a gostyngodd hynny, gwaetha'r modd, i 7,815 yn 2015-16, cyn y gwelwyd gynnydd i'w groesawu i tua 8,500 , ond mae hynny'n dal i fod oddeutu 800 o swyddi addysgu yn llai na'r hyn a oedd gennym tua chwech neu saith mlynedd yn ôl, ac mae honno'n rhan hanfodol o'r elfen addysgu y mae angen ei hunioni os ydym am gynyddu cynhyrchiant a gwella sgiliau ein gweithlu yma yng Nghymru.
Mae'n werth ystyried hefyd er enghraifft fod bron i 170,000 o fyfyrwyr yn ein colegau addysg bellach yn cymryd rhan mewn profiad addysgol ar ryw ffurff neu'i gilydd mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, ond hoffwn ganolbwyntio ar y sector amaethyddol ac yn enwedig, yn anffodus, y nifer fach iawn o brentisiaethau amaethyddol a gynigir yma yng Nghymru. Ymddengys mai 1 y cant o brentisiaethau a gynigiwyd ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, ac mae hynny'n sicr yn bryder mawr. Oherwydd, yn amlwg, yn fy mhrofiad personol i, os caf gyffwrdd ar hynny am eiliad, y ffordd y mae'r diwydiant amaethyddol wedi datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae hi bron yn amhosibl dirnad heddiw ble roeddem yn y 1990au. A chaiff hynny ei yrru gan ddewis y defnyddiwr, oherwydd yn amlwg mae gan ddefnyddwyr allu i ddewis y cynnyrch y dymunant ei brynu ac mae'r defnyddiwr eisiau bod yn fwy gwybodus am y modd y datblygwyd y cynnyrch hwnnw a sut y cynhyrchwyd y cynnyrch hwnnw, ac yn benodol, sut y caiff y cynnyrch hwnnw ei gyflwyno ar silffoedd ein harchfarchnadoedd.
Felly, mae angen gweithlu amaethyddol sy'n fedrus ac sydd mewn cysylltiad â'i sylfaen ddefnyddwyr, ond 30 i 40 mlynedd yn ôl o bosibl, yn draddodiadol, byddai llawer o ffermwyr, cyn gynted ag y byddent wedi gadael gât y fferm, yn cymryd dim sylw o gwbl i'r ffordd y câi'r cynnyrch ei gyflenwi a pha werth ychwanegol y gellid ei roi i'r cynnyrch hwnnw. A hoffwn awgrymu mai dyna lle mae gan golegau addysg bellach rôl hanfodol i'w chwarae. Ac felly mae taer angen inni gynyddu'r ganran honno o fyfyrwyr amaethyddol sy'n gweld eu hamgylchedd dysgu yn y sector addysg bellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei hymateb heddiw, roi rhyw syniad inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu'r niferoedd o brentisiaethau amaethyddol sydd ar gael drwy'r sector addysg bellach, gan nad yw aros ar 1 y cant yn mynd i fod yn dderbyniol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod bron i 4 y cant o'r gweithlu'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol.
Ac mae'n werth nodi hefyd, wrth i economi Cymru wynebu ei heriau unigryw, demograffeg yw un o'r heriau mwyaf a wynebwn, oherwydd rhwng 2016 a 2041 rhagwelir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn gostwng bron 5 y cant. Felly, os ydym yn mynd i gynyddu cynhyrchiant ein gweithlu, ac yn arbennig ein heconomi gyffredinol, mae angen inni wneud yn siŵr fod lefelau sgiliau'n codi fel y gellir sicrhau mwy o waith a gwaith cynhyrchiol sy'n ychwanegu gwerth i'n heconomi gyffredinol gan bob gweithiwr yn y pen draw. A bydd hynny wedyn yn codi lefelau cyflog, sy'n brawf o economi fwy ffyniannus. A sut y mae codi lefelau cyflog? Wel, drwy wella sgiliau'r union weithlu rydym yn treulio cymaint o amser, wythnos ar ôl wythnos, yn siarad amdano yma.
Ac felly, unwaith eto, buaswn yn hapus iawn i allu deall sut y bydd y Gweinidog, ynghyd â'n colegau addysg bellach a'r rhai o fewn y sector, yn ceisio hybu'r cynhyrchiant hwnnw sydd, ysywaeth, wedi llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud, o ran gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, mai'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd oddi tanom yw Gogledd Iwerddon. Yn sicr, gyda'r 14 coleg sydd gennym yma yng Nghymru a rhai o'r cyfleusterau rhagorol y mae'r colegau hynny wedi buddsoddi ynddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf—. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n agos at y fan hon ar Heol Dumballs yn batrwm o gynnydd da, ac yn fy rhanbarth i, mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i Goleg Pen-y-bont a champws Pencoed. Felly, mae gennym y campysau, ond yr hyn a welwn yw diffyg cynhyrchiant yn bwydo i'r economi yn gyffredinol. Yn fwyaf arbennig, os yw'r Gweinidog yn edrych ar ei hardal ei hun ym Mhowys, er enghraifft, lle mae cynhyrchiant 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU, rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r gostyngiad o 35 y cant yn y cynhyrchiant sy'n golygu bod Powys, er enghraifft—y sir fwyaf yng Nghymru, a sir amaethyddol fawr—yn llusgo mor bell ar ei hôl hi. Oherwydd nid yw hynny'n dda i wasanaethau lleol ac nid yw'n dda i'r economi leol yn arbennig, oherwydd mae'n cadw lefelau cyflog yn isel yn yr ardal honno.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd trafodaeth gadarnhaol am y rôl bwysig sydd gan addysg bellach i'w chwarae yn ein hystâd addysg yma yng Nghymru—cydnabod maint y sector addysg bellach, ond pwysigrwydd dysgu rhan-amser a dysgu amser llawn yn y maes penodol hwnnw o addysg yma yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna newyddion da i'w adrodd am addysg bellach, ond ni ddylem dynnu ein sylw oddi ar y bêl o ran lle mae rhai o'r problemau ystyfnig hyn yn bodoli o ran cynhyrchiant, o ran cywiro'r problemau demograffig a wynebwn gyda gweithlu rhwng 16 a 64 oed sy'n crebachu. Ac yn anad dim, sicrhau ein bod yn gallu hybu'r profiad sy'n annog mwy o bobl i fanteisio ar addysg bellach, drwy fuddsoddi'n ariannol a buddsoddi yn y cyrsiau sydd ar gael, ac mae hynny'n golygu rhoi mwy o ddarlithwyr a mwy o athrawon yn y colegau hynny er mwyn inni fynd i'r afael â'r prinder. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma.