Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:07 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n cydnabod fy mod wedi ceisio gwneud hynny am y tair blynedd a hanner diwethaf, os nad ychydig yn hwy, drwy fabwysiadu dull gwirfoddol, drwy fynychu sawl cyflwyniad ar gynllun y cyfeiriais ato mewn ateb cynharach a luniwyd gan ddau ffermwr o Sir Benfro. Rwyf wedi cael llawer o argymhellion. Hynny yw, roedd un o'r adroddiadau diwethaf a gefais gan y sector, rwy’n credu, heb i mi fynd i edrych, yn cynnwys oddeutu 35 o argymhellion; nid oedd yr un ohonynt ar gyfer y sector amaethyddol, roeddent i gyd ar gyfer y Llywodraeth. Wel, yn yr un modd, mae'n rhaid iddo weithio'r ddwy ffordd. Mae'n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth. Ond buaswn yn hapus iawn—. Hynny yw, rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd ac wedi trafod hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau rhoi'r gorau i'w wneud.