Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:08 pm ar 29 Ionawr 2020.
O ystyried y tân diweddar yn ffatri Kronospan yn y Waun a'r llygredd dilynol a effeithiodd ar yr ardal—dywedir wrthyf mai hwn yw'r ail dân ar bymtheg mewn 18 mlynedd, er bod nifer o drigolion yno'n honni eu bod yn digwydd yn llawer mwy rheolaidd na hynny mewn gwirionedd—a allwch ddweud wrthyf pa mor fodlon ydych chi ynghylch lefel y gwaith monitro a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Wrecsam yn y Waun yn arbennig? Oherwydd mae preswylwyr bellach yn cynnal protestiadau wythnosol o ganlyniad i’r tân diweddaraf hwn, ac rwy’n rhannu eu pryderon nad yw’r cyrff sy’n gyfrifol am sicrhau eu diogelwch yn darparu'r sicrwydd y maent ei angen, o ystyried hanes y ffatri. A fyddech yn cytuno i gynnal ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiadau diweddar yno gyda chynrychiolaeth gymunedol yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw, a hefyd i sicrhau bod gwaith monitro ansawdd aer parhaol, annibynnol yn mynd rhagddo ar y safle, neu o amgylch y safle fan lleiaf, fel y gall y gymuned yno gael y sicrwydd y maent yn ei haeddu?