Safonau Lles Uchel mewn Sefydliadau Bridio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Lesley Griffiths Lesley Griffiths Labour 2:10, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Diolch. Mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio cyfleoedd i sicrhau bod yr holl sefydliadau bridio trwyddedig ledled Cymru yn cael eu trin gyda chysondeb. Bydd y gwaith hwn, i edrych ar ffyrdd o gyfuno adnoddau ac arbenigedd a gwella hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, yn helpu i dargedu gorfodaeth yn fwy cyson ac effeithiol.