Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch, Weinidog.
Bydd y rheoliadau newydd arfaethedig ynghylch parthau perygl nitradau yn effeithio ar bob fferm, pob sector a phob ardal yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gymuned ffermio, gan honni bod ffermwyr yn profi lefelau uwch fyth o straen a phryder. Ni roddodd gwybodaeth a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'r adolygiad nitradau yn 2016 unrhyw gyfiawnhad dros gyflwyno parthau perygl nitradau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu’r cyngor a’r dystiolaeth yn ymwneud â’r rheoliadau arfaethedig a gafodd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan gais rhyddid gwybodaeth. O ystyried pwysigrwydd, cost a goblygiadau posibl y rheoliadau hyn, Weinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor a'r dystiolaeth a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd diogelwch a thryloywder yn yr achos hwn?