Safonau Lles Uchel mewn Sefydliadau Bridio

Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Paul Davies Paul Davies Conservative 2:14, 29 Ionawr 2020

(Cyfieithwyd)

Weinidog, yn ddiweddar, cyfarfûm â fy etholwyr David ac Elaine Williams a’u ci Cindy, a gafodd ei hachub o fferm cŵn bach, i ddysgu mwy ynglŷn â sut i atal yr arfer creulon drwy gyfraith Lucy. Gwn fod hwn yn rhywbeth sydd wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, ac mae'n hanfodol yn awr, wrth i gyfraith Lucy ddod i rym yn Lloegr ym mis Ebrill, nad yw Cymru, wrth gwrs, yn cael ei gadael ar ôl.

Fodd bynnag, yn y cyfamser, ac yn dilyn ymlaen o gwestiwn Joyce Watson, pa drafodaethau rydych chi a'ch swyddogion wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â ffyrdd y gallant fynd ati i drwyddedu ffermydd cŵn bach yng Nghymru yn well, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i annog pobl sy’n hoffi cŵn i'w prynu gan fridwyr cyfrifol?