Part of 1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 29 Ionawr 2020.
Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth. Rwyf am ofyn cwestiwn penodol iawn ar barthau perygl nitradau. Tynnwyd fy sylw at y ffaith ei bod yn anos mynd i’r afael â chrynodiad nitradau ar ffermydd ieir oherwydd ei fod, yn syml, yn aros ar waelod y cwrs dŵr. Felly, yn eich trafodaethau ar barthau perygl nitradau, a gaf fi ofyn i chi edrych ar y mater penodol rwyf newydd ei grybwyll?