Part of the debate – Senedd Cymru ar 29 Ionawr 2020.
Cynnig NDM7244 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.
2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.
3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.
4. Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:
a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;
b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;
c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.
5. Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.