Rhagamcanion Poblogaeth a Chynlluniau Datblygu Lleol

Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:23 pm ar 29 Ionawr 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:23, 29 Ionawr 2020

Mi gafodd cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, ei wrthod nôl yn 2013 gan yr arolygwyr cynllunio oherwydd nad oedd digon o dir, medden nhw, wedi’i glustnodi ar gyfer tai, a hynny oherwydd bod rhagamcanion poblogaeth y sir yn dweud y byddai yna 20 y cant o gynnydd yn y boblogaeth—yr ail gynnydd mwyaf drwy Gymru gyfan; yn ail yn unig i Gaerdydd mae'n debyg. Ond, wrth gwrs, mae'r gwirionedd yn dra gwahanol.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae'r cynnydd yn y boblogaeth wedi bod yn sylweddol is na'r rhagamcanion. Er hynny, mae'n ymddangos bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn dal ddim yn gwrando oherwydd maen nhw'n parhau i herio cyngor Wrecsam. Mae'r cyngor yn edrych i darged o ryw 8,500 o dai yn eu cynllun datblygu lleol tra bod yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn mynnu bod angen bron i 12,000 o dai yn y cynllun hwnnw. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i olygu codi mwy o dai ar feysydd gwyrdd, mae'n mynd i greu rhyw fath o urban sprawl sy'n mynd i ddinistrio cymunedau unigryw yr ardal.

Felly, fy nghwestiwn i ichi, Gweinidog, yw: ble mae'r Llywodraeth yn sefyll ar y mater yma? A ydych chi o blaid cyfundrefn sy'n gorfodi codi tai diangen, neu a ydych chi o blaid amddiffyn ein hamgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau ni?