Part of 2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol – Senedd Cymru am 2:57 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n gobeithio bod Siân Gwenllian yn gwybod fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r broblem, ac rwy'n llwyr gydnabod ei bod yn bodoli. Rydym wedi edrych ar bethau fel ceisio ei rheoli drwy'r system gynllunio, ond pan fydd rhywun yn gwerthu tŷ preifat i unigolyn preifat neu i gwmni, byddai'n anodd iawn dweud, ar y pwynt hwnnw, na allai'r gwerthiant barhau pan fyddai'n dod yn hysbys pwy yw'r perchennog a'u bod wedi datgan ei fod yn ail gartref.
Ceir pob math o broblemau eraill hefyd a allai ymddangos yn ddibwys ond sy'n wirioneddol broblemus mewn system gyfreithiol. Felly, rwy'n prynu'r tŷ fel fy mhrif dŷ, ac yna rwy'n priodi rhywun sy'n byw yn Llundain ac nid wyf ond yn dychwelyd ar benwythnosau, felly a wyf wedi'i droi'n ail gartref yn sydyn ac wedi torri'r rheol gynllunio? Ceir llawer o broblemau anodd. Nid yw hynny'n golygu nad wyf yn cydymdeimlo â'r broblem; rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud.
Gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau arbennig o fawr mewn perthynas â hyn, ac mae gan rannau prydferth iawn o'r wlad broblemau penodol. Rydych yn llygad eich lle yn nodi Gwynedd. Mae canran Gwynedd yn 9.9 y cant, ac yn bedwerydd yn y rhestr o awdurdodau sydd ag ail gartrefi ym Mhrydain. Felly, rydych yn llygad eich lle ei bod yn broblem enfawr i ni. Ond rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hi mewn nifer o ffyrdd.
Mae gennym grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig—cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC—sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae gennym fforwm da i annog a phrofi syniadau ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud. Rydym yn annog pethau fel defnyddio premiymau'r dreth gyngor. Rwy'n fodlon ystyried a ddylem gynyddu'r rheini eto fyth os yw prisiau tai—. Mae tŷ yn fy mhentref newydd werthu am £2.8 miliwn i gwpl o Lundain ac nid wyf yn credu eu bod yn bwriadu byw yno'n barhaol. Ni fydd fy mhlant byth yn byw mewn pentref lle mae tai'n gwerthu am brisiau felly; mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'ch safbwynt.
Felly, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw nodi tir, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith, lle mae plant y pentrefi eisiau byw, a nodi tai y gallwn eu hadeiladu naill ai ar gyfer rhent cymdeithasol gydag elfen leol ynghlwm wrth hynny, neu ar gyfer ecwiti cymysg—felly trefniadau ecwiti a rennir gyda chymdeithasau tai lleol neu gyda'r cyngor lleol—neu drefniadau eraill fel hunanadeiladu gyda gofynion preswylio o ganlyniad i'r grant, ac amryw o bethau eraill y gallwn eu gwneud i annog adeiladu'r math cywir o dai, fel y gellir annog pobl leol, a phobl ifanc yn arbennig, i aros yn ein cymunedau.
Felly, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â hynny, ond nid wyf yn credu mai'r system gynllunio yw'r ffordd gywir o'i wneud. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i arf sy'n gweithio. Felly, rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i un o'r sesiynau ynghylch trefniadau'r swyddogion galluogi tai gwledig, ac rydym yn hapus iawn i edrych ar unrhyw syniadau da eraill ar draws y Siambr, Lywydd, gan fy mod yn gwybod bod gan nifer fawr o bobl y problemau hyn yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud a fyddai'n gweithio heb gael ein cynnwys mewn anghydfodau cyfreithiol diddiwedd wrth werthu gwahanol dai ledled Cymru.