Part of the debate – Senedd Cymru am 4:06 pm ar 29 Ionawr 2020.
Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn llai gwleidyddol, mewn un ystyr, na'r hyn rydym newydd ei glywed. Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried effaith cyrraedd y terfyn amser sef 11 yr hwyr amser cymedrig Greenwich ddydd Gwener 31 Ionawr. Bydd fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, sy'n eistedd wrth fy ymyl, yn teimlo'n anesmwyth ar y dyddiad hwnnw gan ei fod yn bwynt allweddol ar gyfer penderfynu a ddaeth digon o bobl i mewn i'r Swans i allu cyrraedd y gemau ail-gyfle, gan fod y terfyn amser trosglwyddo am 11 yr hwyr nos Wener—[Chwerthin.] Nawr, nid yw honno'n ymgais i fychanu'r digwyddiadau arwyddocaol eraill, ond i'n hatgoffa ni i gyd na fydd pob llygad yn canolbwyntio ar y digwyddiad penodol hwnnw. Nawr, bydd llawer o bobl o'n cwmpas yn edrych ar bethau eraill mewn gwirionedd, er na fydd sylw'r newyddion ar ddim byd arall.
A bydd llawer o rai eraill yn ei weld fel adeg pan na fyddwn yn ddinasyddion yr UE mwyach a'r cyfan y mae hynny yn ei olygu i ni—adeg gadarnhaol yng ngolwg rhai; negyddol yng ngolwg eraill. Nawr, rwy'n llwyr gydnabod canlyniad pleidlais y mwyafrif o'r etholwyr a oedd â phleidlais yng Nghymru ym mis Mehefin 2016 a bod y DU yn gadael yr UE, ond unwaith eto, rwy'n pwysleisio bod y ffordd rydym yn gadael a'r llwybr rydym yn ei ddilyn yn hollbwysig i'n dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol disglair, a byddaf bob amser yn gweithio tuag at hynny, ond mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn rhoi prawf ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraethau, ein bod yn dadansoddi'n feirniadol y strategaeth ar gyfer economi gref a bywiog yn y dyfodol a'n bod yn craffu ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir i sicrhau bod y gyfraith sy'n effeithio ar y bobl rydym yn eu cynrychioli yn gyfraith dda, nid yn un wallus nac wedi'i rhuthro er mwyn darparu ateb poblyddol yn unig.
Rydym i gyd yn gwybod y bydd y potensial ar gyfer gadael yr UE yn dod drwy'r cysylltiadau masnachu y mae'r DU yn eu meithrin gyda gwledydd eraill. Nid oes amheuaeth na fydd pryderon ynglŷn â sut y bydd mandadau'r DU ar gyfer cytundebau o'r fath yn cael eu creu a'r rôl a fydd gan genhedloedd datganoledig ar gyfer cytundebau o'r fath wrth bennu'r mandad hwnnw. Mae nifer ar draws y Siambr wedi mynegi barn ei bod yn bwysig fod pob gwlad ddatganoledig yn rhan o'r tîm sy'n gosod y mandad a hefyd y tîm sy'n cyflawni negodiadau. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i sefydlu'n dda yn y Senedd hon.
Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon yn cael unrhyw lais wrth negodi a chadarnhau'r cytundebau hyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle maent yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig. Dylem fod yn rhan o'r broses o bennu cyfeiriad y negodiadau a chael ein cynnwys yn y broses o sefydlu'r mandad ar gyfer y negodiadau hynny. Dylem fod yn yr ystafell pan fydd negodiadau'n trafod cymwyseddau datganoledig neu faterion sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn digwydd yn aml ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd ac mewn mannau eraill yn y byd, felly pam ddim yma?
Nawr, rwy'n deall y bu cyfarfod o fforwm y gweinidogion ar fasnach, ond nid yw'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi eto, ac mae eglurhad ar ein rôl yn y broses yn dal i fod yn ymylol. Rwy'n croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i symud yr agenda yn ei blaen o ran sut y gallwn newid y setliad cyfansoddiadol presennol ac rwy'n cefnogi ei safbwynt fel y'i nodir yn y ddogfen, 'Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n amlwg mai dyma'r dull o weithredu sy'n gweddu i fudd Cymru a'n dinasyddion, gallu dylanwadu ar unrhyw gytundeb masnach er mwyn iddo fod o fudd i Gymru a'i dinasyddion.
Nid oes ond angen inni edrych ar ddigwyddiadau'r wythnos hon i ystyried y risgiau a all ddigwydd mewn negodiadau masnach o'r fath ac felly, pam y mae'n rhaid gwrando ar ein llais a rhoi ystyriaeth briodol iddo. Ddoe er enghraifft, clywsom gan Lywodraeth y DU eu bod yn mynd i dderbyn Huawei fel rhan o ddyfodol y rhwydweithiau 5G, ond dros y dŵr, gwelsom seneddwyr Gweriniaethol yn trydar sut y byddai hyn yn effeithio ar eu hystyriaeth o unrhyw gytundeb masnach DU-UDA—gan geisio blacmelio'r DU i bob pwrpas i ildio i benderfyniadau eu Llywodraeth a'u buddiannau hwy, nid ein buddiannau ni. Mae'n bwysig nad yw ein buddiannau yn cael eu haberthu er mwyn cyd-fynd â buddiannau gwleidyddol un grŵp yn unig. Bydd anawsterau'n codi o hynny.
Y tro diwethaf inni drafod cytundebau masnach yn y Siambr hon, cyflwynodd y Ceidwadwyr welliant sy'n gwadu ein pryderon dilys ynghylch safbwynt negodi masnachol presennol Llywodraeth y DU. Yn hytrach, mae'n well ganddynt eu cau o feddyliau pobl. Roedd eu gwelliannau hwy'n datgan na ddylem gymryd rhan mewn negodiadau masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl. Rwy'n gobeithio eu bod yn newid eu meddwl yn awr. Ond beth y mae hynny'n ei ddweud am uchelgeisiau'r Ceidwadwyr Cymreig? Maent yn fwy na pharod i'w adael i San Steffan a pheidio â'n cynnwys ni—