Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 29 Ionawr 2020.
Felly, yn gyfansoddiadol, beth am Gymru? Mae gan Iwerddon achos i ddod yn Iwerddon unedig. Mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn mynd am annibyniaeth. Beth am Gymru? Cymru wedi'i weldio fwyfwy wrth Loegr a'i hanwybyddu a'i gwthio i'r cyrion a'i chymhathu, neu Gymru'n creu ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth, gan iacháu canrifoedd o loes?