Part of the debate – Senedd Cymru am 6:43 pm ar 29 Ionawr 2020.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae pysgodfeydd Cymru wedi llunio ein hunaniaeth a'n cymunedau dros ganrifoedd. Ac eto, heddiw, mae llawer o'n cymunedau arfordirol yn ofni mai'r genhedlaeth hon fydd yr olaf i wybod am y traddodiadau a'r diwydiannau sydd wedi cynnal ein cymunedau ac wedi denu cymaint o ymwelwyr. Nid bygythiad Brexit anhrefnus ac ansicr gan y Torïaid yn unig sy'n eu poeni. Mae'r pryderon hyn hefyd yn adlewyrchu'r dirywiad graddol y maent wedi'i weld yn y bywyd morol y mae eu bywoliaeth yn dibynnu arno. Byddai lleihau pwysigrwydd pysgodfeydd yn hanesyddol ac yn y dyfodol drwy fabwysiadu safbwynt rhy syml ar Brexit yn gwneud anghymwynas â'n cymunedau a'u pryderon. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, sy'n galw nid yn unig am fabwysiadu safbwynt penodol ar Brexit, ond i Lywodraethau Cymru a'r DU weithredu pob cam sy'n angenrheidiol i warchod ein cymunedau a'n diwydiannau arfordirol, a'r amgylchedd y mae ein lles yn dibynnu arno.
Y llynedd, cyhoeddais 'Brexit a'n Moroedd', sef ymgynghoriad i ddechrau'r sgwrs ynglŷn â sut y rheolwn ein pysgodfeydd pan na fyddwn yn rhan o bolisi pysgodfeydd cyffredin yr UE mwyach. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar yr ymateb i'r ymgynghoriad a'n camau nesaf yn ddiweddarach y tymor hwn. Fodd bynnag, mae'r camau nesaf y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd yn glir iawn. Rhaid iddynt sicrhau mynediad at farchnadoedd yr UE i ganiatáu i'r berthynas hanfodol barhau rhwng busnesau yng Nghymru a'u partneriaid ffyddlon ledled Ewrop. Rhaid iddynt sicrhau mynediad at fywyd yr UE, at y rhaglen INTERREG ag Iwerddon, ac â'r rhaglenni eraill sy'n galluogi llywodraethau a chymdeithas sifil ledled Ewrop i gydweithio er budd ein hamgylchedd cyffredin.
Heb gryfhau amddiffyniad i'r amgylchedd morol ac osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd, ni fydd unrhyw ddiwydiannau'n bodoli. Rwy'n cytuno â'r teimlad a fynegir yng ngwelliant Plaid Cymru, ond credaf fod angen inni fynd ymhellach. Gwn fod gan Aelodau Plaid Cymru ddiddordeb ehangach o lawer yn ein hamgylchedd morol na physgodfeydd yn unig. Rwyf wedi cael gohebiaeth a thrafodaeth reolaidd gydag Aelodau ynglŷn â chydweithredu ehangach gyda'n partneriaid Ewropeaidd a gwella'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi gwell rheolaeth ar fioamrywiaeth forol. Nid mater o ddatganiadau diystyr am reolaeth o'r math a welwn yng ngwelliant y Torïaid yw sicrhau'r cydweithrediad hollbwysig ac eang hwn gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Dim ond un cefnfor sydd gennym, ac ni ellir rheoli bioamrywiaeth forol yn syml drwy dynnu llinell ar fap. Mae'n gofyn am gydweithredu a negodi hirdymor, nid datganiadau bachog am reoli'r naill ochr neu'r llall.
Synnais hefyd o weld gwelliant y Torïaid ynghylch mwy o arian gan Lywodraeth y DU ar gyfer pysgodfeydd. Mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio am ddatganoli, ac yng Nghymru, ein bod yn gwneud ein penderfyniadau ariannu ein hunain yn y meysydd y mae'r Senedd hon yn gyfrifol amdanynt. Ar bob cyfrif, gadewch i'r wrthblaid adleisio ein galwadau am roi terfyn pendant ar gyni ac am gynnydd sylweddol yn ein cyfran o wariant cyhoeddus o dan fformiwla Barnett. Ond a ydynt o ddifrif eisiau dadlau yn erbyn gallu'r Senedd hon i benderfynu ar ddyraniadau cyllidebol o fewn y cymhwysedd datganoledig? Fodd bynnag, y gwelliant mwyaf annisgwyl gan y Torïaid oedd yr un am ddyletswydd gyfreithiol i Lywodraeth Cymru warantu stociau pysgod. Gwelwn nad yw Bil Pysgodfeydd y DU, a gyhoeddwyd heddiw gan eu plaid, yn cynnwys unrhyw ddyletswydd gyfreithiol o'r fath. Gall yr Aelodau ddod i'w casgliadau eu hunain ynglŷn â faint o bwyslais y mae'r Torïaid yn San Steffan yn ei roi ar y cyngor a gânt gan eu cymheiriaid yng Nghymru. Ni allwn warantu'r stociau pysgod yn gyfreithiol fwy nag y gallwn warantu cynnydd yn lefel y môr yn gyfreithiol. Rhaid inni weithredu ar y cyd â gwledydd eraill yn Ewrop ac ym mhob cwr o'r byd er mwyn gwireddu'r ymrwymiadau hynny.
Fodd bynnag, mae llawer y gallwn ei wneud a'i wneud fel Llywodraeth Cymru, waeth beth fydd canlyniad proses Brexit, er mwyn i bysgodfeydd Cymru ffynnu yn y dyfodol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, cawsom statws gwarchodedig i gyfres o fwydydd o bysgodfeydd Cymru, gan eu rhoi ar yr un lefel â'r bwydydd gorau yn y byd—cregyn gleision Conwy, bara lawr Cymreig, Halen Môn, ac eogiaid a sewiniaid wedi'u dal o gwrwgl. Mae eu statws gwarchodedig yn cydnabod sgiliau anhygoel cynhyrchwyr y bwydydd hyn—mewn llawer o achosion, sgiliau a drosglwyddwyd ac a feistrolwyd dros genedlaethau. Ond wrth gwrs, mae'r statws gwarchodedig hwnnw hefyd yn dibynnu ar ansawdd yr amgylchedd morol a'n gallu i ofalu amdano. Er mai un enghraifft yn unig o werth pysgodfeydd Cymru yw bwydydd â statws gwarchodedig, maent yn cyfleu'n berffaith y camau y mae angen inni eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i alluogi ein pysgodfeydd i ffynnu: hynny yw, rhaid inni fuddsoddi yn y bobl y mae eu sgiliau a'u hymroddiad yn cynnal ein diwydiannau, a rhaid inni ofalu am yr amgylchedd y mae'r diwydiannau hynny a lles ein cymunedau'n dibynnu arno. Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sectorau bwyd môr a dyframaethu i ddatblygu sgiliau newydd a chysylltiadau newydd, fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau'r cynnyrch o'r radd flaenaf a gynigiant. A dyna'n union y mae ein menter clwstwr bwyd môr Cymru yn ei wneud. Mae'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sector bwyd a diod Cymru wedi gweld ei dwf yn rhagori ar bob disgwyl, gan gyrraedd mwy na £7.4 biliwn flwyddyn yn gynt na'r targed. Mae'r camau y byddwn yn eu cymryd wedi'u cynllunio i gefnogi pysgodfeydd Cymru i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy at y twf hynod hwn.
Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod yr holl weithgareddau yn nyfroedd Cymru yn cael eu rheoleiddio a'u cydlynu'n briodol fel ein bod yn diogelu bioamrywiaeth y môr ac yn atal y dirywiad sy'n bygwth dyfodol pysgodfeydd Cymru. Mae ein cynllun morol a'n strategaeth tystiolaeth forol a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos sut y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru gefnogi hynny'n llwyr. Mae arnom angen gwell tystiolaeth a gorfodaeth, a dyna pam y gwnaethom fuddsoddiadau newydd sylweddol yn y meysydd hyn i ddiogelu ein moroedd yn well ar gyfer ein diwydiannau hanesyddol a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd ein cymunedau arfordirol a'r nifer fawr o bobl yng Nghymru sy'n uniaethu â physgodfeydd Cymru, beth bynnag fo'u barn am Brexit, yn gweld o'r ddadl heddiw ein bod ni, ar draws y Senedd, yn barod i roi pob cam angenrheidiol ar waith i ddiogelu eu dyfodol.