6. Dadl: Cyllideb Ddrafft 2020-2021

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:54 pm ar 4 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 3:54, 4 Chwefror 2020

Diolch yn fawr, Llywydd. Mae'n bleser gen i gyfrannu at y ddadl bwysig yma ar y gyllideb ddrafft gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2020-21 ar ran y Pwyllgor Cyllid. Mae'n adroddiad ni yn gwneud cyfres o argymhellion, ac mi fyddaf i'n ymdrin â rhai o'r rhai amlycaf yn fy nghyfraniad i i'r ddadl yma y prynhawn yma. 

Nawr, fel rydym ni wedi clywed, o ystyried yr ansicrwydd o gwmpas y gyllideb yma gydag etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig a Brexit ac yn y blaen, mae'r pwyllgor yn cydnabod bod y gyllideb ddrafft hon wedi'i chyflwyno o dan amgylchiadau eithriadol, ac mae hyn wedi effeithio ar allu'r Llywodraeth a rhanddeiliaid eraill i gynllunio.