Y Gwasanaeth Iechyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:53 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:53, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond rwy'n credu y byddai'r rhan fwyaf o bobl deg eu barn yn dweud bod hwnna'n ateb rhannol iawn i'r cwestiwn. Y gwir yw bod perfformiad yn y gwasanaeth iechyd, mewn sawl ystyr, wedi gwaethygu'n sylweddol iawn yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. O ran Betsi Cadwaladr, mae traean o gleifion yn aros dros bedair awr am ddamweiniau ac achosion brys erbyn hyn, o'i gymharu â dim ond 20 y cant bedair blynedd yn ôl; mae 22,000 o gleifion wedi cael eu gadael yn y system atgyfeirio-i-driniaeth dros 36 wythnos ar sail ffigurau diweddar, o'i gymharu â dim ond 15,000 chwe blynedd yn ôl; a cheir llawer o fethiannau eraill y tynnwyd sylw atyn nhw yn rheolaidd yn y Siambr hon.

Yr hyn sydd wedi digwydd yn y fan yma yw ein bod ni wedi normaleiddio methiant yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Nid bai'r rhai sy'n gweithio yn y system yw hyn; mae'n fethiant rheoli a rheolaeth wleidyddol. O gofio bod iechyd yn llyncu dros hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, nid dim ond methiant ei Lywodraeth ef sydd dan sylw yn y fan yma, ond mewn gwirionedd—ym meddyliau nifer gynyddol o bobl—methiant datganoli ei hun. A oes unrhyw ryfedd, felly, bod 25 y cant o bobl Cymru wedi dweud mewn arolwg diweddar eu bod nhw'n credu y dylid diddymu'r lle hwn? Felly, dyna, efallai, fydd ei feddargraff ef.