Y Gwasanaeth Iechyd

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Chwefror 2020.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Vikki Howells Vikki Howells Labour 1:59, 11 Chwefror 2020

(Cyfieithwyd)

Prif Weinidog, mae'r gwaith wedi hen ddechrau erbyn hyn ar ganolfan gofal iechyd sylfaenol newydd gwerth £4 miliwn yn Aberpennar, ac mae hyn yn newyddion gwych i'r gymuned leol, gan ddod ag amrywiaeth o wasanaethau at ei gilydd a disodli'r cyfleusterau meddygon teulu presennol a oedd wedi dyddio ac, a dweud y gwir, ddim yn addas i'w diben. Ym mha ffyrdd eraill y mae Llywodraeth Cymru yn cynorthwyo i helpu i sicrhau gwelliannau i ofal iechyd sylfaenol yng Nghwm Cynon?